Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 áuijjdl ($ft* §ütk §ux*)- Ehif. XII. Ohwefror, 1895. Cyfrol 1. GAIR AT Y DARLLENWYH. Hwn yw rhifyn diweddaf cyfrol gyntaf y Fwyell. Ni flinir chwi a Bhagymadrodd arferedig yr hen gylchgronau. Nid yw golygwyr diweddar yn trafferthu i gynyg ymgrymiad moesgar felly i'w darllenwyr. Hoffem ninau fod yn y ffasiwn. Eithr nis gallwn gysgu heno heb gofnodi ein diolchgarwch am y derbyniad a gafodd " cyhoedd- iad crefyddol mwyaf anenwadol" Cymru gan y wlad. Bu y Wasg yn garedig. Hawdd fyddai Uenwi dalenau lawer â'u geiriau canmoliaethus. " Diwygiwr Wesleyaidd ydyw y Fwyell. Erfyn llym ydyw, ac j mae twysged o nerth yn y fraich sydd yn ei chwyrndroelli yn nyrus- goedy Rhondda," eba prif newyddiadur y Dywysogaeth amdani. Parodd llythyrau cyfrinachol hefyd a dderbyniwyd lawenydd mawr. Dynion da o wahanol enwadau yn cael eu cyffroi i weddio y peth olaf bob nos am ddiwygiad crefyddol, ar ol darllen hanes y Diwygiad mawr ya 1859—60 yn y Fwyell. Yr adgof am Ddiwygwyr yr amser gynt yn tanio meddyliau ieuainc gydag ysbryd pregethu yn achubol. Llonder mawr yw gweled fod tân Diwygiad yn llosgi ei ffordd i'n prif gyfnodol- ion yn brysur. Bu " Pobl a Phethau " yn eirias o hono yn yr Eur- grawn hybarch yn misoedd olaf y flwyddyn ; a " Diwygiad Bedd- gelert" ydyw testyn un o erthyglau rhagoraf y Llenor,—cyhoeddiad uchelryw sydd newydd ymddangos o swyddfa Wrecsam, a hyny dan olygyddiaeth un o'r llenoriou penaf a fagodd ein gwlad. Os nad oes gan ein misolyn ddim i'w wneyd a'r ffeithiau hyn, dengys fod ysbryd Diwygiad yn yr awyr. Bu dosbarthwyr yn ffyddlon a'r lledaeniad yn galonogol. Cafwyd ysgrifau gwerthfawr a galluog, a thônau pherseiniol a phoblogaidd, yn nghyda rhai darnau barddonol anfarwol. Cymerwyd trafferth nid bychan i sicrhau darlunian a hanes pregethwyr achubol ac enwog fel Diwygwyr, a dyry adroddiad y Genhadaeth a hanes damwain Cilfynydd werth arhosol yn y gyfrol yn mryd llaweroedd.