Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ íwptt (®k |at«e gute). Rhif. XI. Ionawr, 1895. Cyfrot, 1. YN Y RHYFEL. " The air is full of new batth cries, of the sound of the gathtriny and marshalling of new forces and the reoryanizatkn of ohl ones.n—Benjamin Kidd. Mewn awyrgylch lwythog o elfenau tymestl ac ymladd yr ymdrechir codi lluman heddwch, i gyfarch gwell i ddarllenwyr y Fwyell ar ddechreuad blwyddyn newydd. Rhyfela yn wallgof mae natur oddi- allan y fynyd hon. Yr oedd hen gweryl yn croni er's dydcliau rhwng yr elfenau â'u gilydd, a thra yr oedd tywydd teg yn achub pob cyf- leusdra i godi baner heddwch, fel yr wyf finau yn awr, camu ael a chodi rhoch, a phoeri cythrudd a phob math o arwyddion bygythiol a welid dros amser bob dydd; a heddyw dyna hi yn daro ac yn ymladd gwyllt, nes o'r bron godi bryniau yr arclal o'u gwraidd. Rhuthra y gwynt o gyfeiriad y Rhondda fel pe wedi ei ollwng o afael pob deddf a Uywodraeth, dylifa y curwlaw i lawr o'r nefoedd fel pe bae pob cwmwl uwchben wedi tori, ac ymgyfyd pob cornant fel ymchwydd yr Ior- ddonen, gan fygwth difrod cyfl'redinol ar eiddo a bywydau. Ond waeth heb achwyn; dyma ddeddf natur. Trwy ymysgwyd fel hyn y mae yn byw, ac mae grym—sef nerth mewn ysgogiad—mor hanfodol iddi, ag ycìyw mater. Ceir hindda yn y man, ac ar ol i'r brwydro blin derfynu, mwynheir egwyl hyfryd i ranu yr yspail. Yn wir, dyma ddeddf bywyd yn mhob cylch. Amser rhyfel ac ymladd ydyw hi er cyn cof; a'r rhyfelwyr goreu sydd yn cael y dydd ac yn ychwanegu cryfder, mewn masnach, gwladlyw- iaeth, a chrefydd, yn hanes unigolion a chenhedloedd. Goroesa y cymhwysaf. Treisia y trechaf, a gwthir y gwan i drancedigaeth. Na, nid nerth yw unig amod goroesiad yn ymdrech bywyd. Mae medr a gofal, gwroldeb ac yni, tegwch a dyfalbarhad yn mynu eu lle fel amodau buddugoliaeth. Dadleua Kidd fod crefydd hefjd yn ýactor pwysig yn ngyrfa dadblygiad cymdeithas. A diau ei bcd. Y syndod yw na welid hyn yn fwy cyffredinol gan bendragoniaid proflesedig yr oes.