Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

% gwpìì (®bí gatttc §w). Ehif. YIII. Hydref, 1894. Cyfrol 1. Y TYWYSOG AFFRICANAIDD. (GYDA DARLUN). Mae'n hyfrydwch mawr genym gyflwyno darlun o'r Tywysog yn y rhifyn hwn, a gallu sicrhau y darllenydd ei fod yn hollol wreiddiol. Boreu Llun, Awst 27ain, cyn iddo adael ein ty ni yn Mhontypi-idd, cafwyd Mr. Forrest, y gwawl-lunydd, i'r lle gyda'i offer at waith; ac wedi gosod pethau mewn trefn, gollyngwyd ergyd o oleuni dysglaer heulwen ar y gwydr, a thynwyd darlun rhagorol o'r ymwelydd Affri- canaidd yn mharlwr Eglwysbach. Yr oeddym yn falch iawn o'i ymweliad, ac yn gwerthfawrogi yr anrhydedd o gael ei letya dan ein cronglwyd ; ond y mae y dygwyddiad bychan hwn yn coroni y cyfan. Yír ein brys i achub yr adeg, anghofiasom osod o'r neilldu y darluniau grogant ar ein parwydydd sydd wedi ymwthio yn y pellder o gylch y darlun. Yn wir, yr oedd pawb a phobpeth yn ein ty ni yn cael eu tyr-m gan y Tywysog ato ei hun, ac ymddengys na fynai yr awrlais ar y pentan, na'r darluniau ar y pared ymguddio o'i wydd. Boed a fyuo- am hyny, mae darn ardderchog o Gyfandir Affrica wedi morteisio yn oesol gyda chelfi ty yn gystal ag yn serchiadau calon Cenadaeth Deheudir Cymi'u. Ond er rhagored y darlun, prin y dyry i'r darllenydd dyeithr syniad cywir am faintioli person a gwychder ymddangosiad ein gwyth- ddrych. Mae y gwr du yn dywysog bob modfedd o hono. Saif úwch- law dwy lath mewn taldra, ac mae ei led a'i bwysau yn gyfatebol. Mae'n gawr o ddyn. Un o'r pethau cyntaf a ddaw i'r meddwl wrth ei weled yn marchio yn fawreddog i ystafell ydyw, Beth a ddaw o'r