Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 Jwgett (mt §Mt $w). Rhif. VI. Awst, 1894. Cytrol 1. TANCHWA GLOFA CILFYNYDD, PONTY- PÍLIDD. Bwriedir i'r rhifyn hwn o'r Fwyell gynwys sylwedd holl hanes y trychineb uchod, yn nghyda desgrifìad byr o'r lle ac amgylchiadau y ddamwain, rhestr gyflawn o enwau a chartrefleoedd y trueiniaid a gollasant eu bywyd trwyddi; dygwyddiadau hynod a tharawiadol a wnaed yn hysbys yn hanes y meirw, neu yr eiddo yr ychydig a ddiangasant yn fyw megys pentewynion o'r tan. Mae yr Albion, mangre y ddamwain, o fewn llai na dwy fìlldir i'r Town Hall, lle yr ydys yn cynal ein haddoliadau Sabbothol; a Chilfynydd yn rhan megys o dref Pontypridd. Mae lluaws mawr o drigolion y dref hon, a phobl y Genadaeth yn gweithio yn y lofa uchod, a phe dygwyddasai y danchwa ddwy awr yn nghynt, pan oedd pymtheg cant yn ngwaelod y pwll, buasai y dinystr ar fywydau dynol yn arswydus i feddwl am dano; ac yn mhlith y lladdedigion, yn ol pob tebygolrwydd, cawsid lluaws mawr o'n cymydogion agosaf ac ugeiniau o'n haelodau mwyaf fíyddlon. Buasai Pontypridd fel dinas anghy- fanedd, a chwmwl can dewed a'r fagddu yn tywyllu ei hawyr am genedlaeth gyfan. Yn nghanol ein holl alar a'n hamddifadrwydd presenol, dymunem gadw mewn cof y gallasai pethau fod yn llawer gwaeth. I'r cwmwl duaf mae ymyl arian, a thant llon i'r alarnad ddwysaf. Diolchwn yn nghanol ein dagrau, a chofiwn fod nifer y rhai byw a ddiangasant yn llawer mwy na rhestr ddu y cyfeillion anwyl a gollasant eu bywyd. Yn yr adroddiad brysiog hwn o'r galanasdra, amcanwn yn bybyr i roddi datganiad croew o'r YSBRYD DIOLCH sydd yn toi calonau pobl ystyriol yr ardaloedd, nid yn unig am na ddygwyddodd yr hyn a fuasai gwaeth, eithr hefyd am y cydymdeimlad dwfn ac eang, a'r haelioni parod a chyffredinol, a gyffrowyd yn mhob