Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 i«pr(lfö §mt $u). Rhif. II. Ebrill 1894. CrFROL 1. CARTHFFOSYDD BLAENAU MORGANWG. Un o anhawsderau sefydlog ac achos un o beryglon penaf iechyd a, bywyd poblogaeth anferth y Sir hon ydoedd diffyg cyfundrefn o. garthffosydd. Llygrid yr afonydd, a phan fyddai y dwfr yn isel a'r hin. yn sych, gwenwynid yrawyrgylch, cynyrchid pob math o afìechydon, ac ymledai marwolaeth fel pla drwy yr holl gymoedd. Cydgyfarfyddai yr anfanteision hyn gyda chwrs y ddwy afon yn Mhontypridd, ac yr oedd y galanasdra ar adegau yn fawr. Ac nid syndod bychan ydyw i lawer na fuasai y trychineb ar iechyd y lle a'r amgylchoedd yn llawer gwaeth. nag yw. Dro yn ol aed ati o ddifrif i agor ffosydd, gosod pibelli, a chyfleut moddion cyfaddas tu ag at symud yr aflwydd hwn o'r wlad. Y mae y joint sewer yn ddeunaw milldir o hyd, ac yn costio £150,000. Agorir pibelli i arwain iddi gan y byrddau lleol o bob cyfeiriad. Gosododd; Local Board Pontypridd dros ddwy filldir ar bymtheg o bibelli, ac yr oedd llawenydd mawr yn y lle y diwrnod o'r blaen ar osodi&dypipe olaf i lawr. Bydd y draul uwchlaw ugain mil o bunau ar y dref hon yn\ unig, ond beth yw hyny mewn achos o iechyd a bywyd ? Estyn oes ac- achub bywyd, atal heintiau ac ychwanegu cysur, ydyw yr hyn sydd wirioneddol bwysig yngolwg yr awdurdodau. Hyn barodd iddynt wynebu ar y mawrwaith hwn a llawenychu yn ei orpheniad. Gwyddent ar y dechreu y parai draulr ac y clywid rhaì trethdalwyr yn achwyn arnynt. Gwyddent yr achosai drafferth flin i'w swyddogion a Uawer o ddadlu yn eu pwyllgorau; ond yr oedd gwerthfawredd yr amcan y fath fel na chymerasant eu digaloni gan ddim. Nid rhyfedd fod gwledd wedi ei chynal, ai*eithio a llawenychu, a