Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 179.] TACHWEDD, 1868. [Cw. XY. GOBAITH. GoBAiTn a arwydda yn briodol ddysgwyliad am ryw dda i ddyfod. " Canys trwy obaith yr iachawyd. Eithr y gobaith a welir nid yw obaith, obleg-yd y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio.'' Dangosir gobaith yma fel yn cadw, yn dal i fyny, ac yn dyogelu mewn profedigaethau a chyfyngderau. Cawn alw sylw y darllenydd at y pethau can- lynol: GoBAITH FEL GREDDF BERTHYNOL i'R ENAID. " Gwnaethost i mi obeithio pan oéddwn ar fronau fy mam." Salm xxii. 9. Mae'r geiriau yma o eiddo Dafydd yn ffigwr gref er gosod allan y drychfeddwl fod gobaith yn reddf gyn- henid berthynol i'r enaid—yn rhan o hono, feí y mae'r llygad, neu unrhyw aelod arall o'r corff yn rhan o'r corff. Gall y corff mae'n wir fodoli heb y llygad, ond mewn sefyllfa anmherffaith; a gall yr enaid fodoli heb obaith, ond mewn sefyllfa anmherffaith iawn. Y mae eneidiau teneu a diolwg fel cyrff. Ond er hyn pÜj mae gobaith yn reddf—yn reddf sydd yn cadw yr enaid i edrych tua'r dyfodol. GOBAITH FEL ITN o'R CŸNHYREI05T MWYAF NERTHOL A GRYMUS I FYWYD GWEITHGAR.