Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehip. 178.] HYDREF, 1868. [Cyf. XV. CYMHWYSDEEAU ATHEAW. Y mae gan y byd ei wahanol sefydliadau a'i gymdeithasau, ac y mae gan y sefydliadau a'r cymdeithasau hyn eu gwahanol effeithiau ar y dynion sydd yn perthyn iddynt; rhai o honynt yn eff'eithio yn ddrwg ar gyflwr moesol dyn—yn llygru ei chwaeth at bethau da, yn tywyllu ei feddwl a'i ddeall, yn ei wneud yn anghynefin a gair cyfiawnder, ac yn y diwedd yn ei arwain i ddinystr a cholledigaeth yr enaid I Ereill a'u tuedd i lesoli cymdeithas, i oleuo y meddwl, i buro y chwaeth, i eangu'r deall, i ddwyn dyn i feddwl yn uchel am dano ei hun fel bod rhesymol, ac yn ei osod ar dir priodol er deínyddio ei reswm trwy gyflawni ei ddyledswyddau tuag at Dduw a dyn. Gellir dyweyd am y rhai drwg ym»—"O ddiafol y maent;'' ac am eu proffeswyr —" O'ch tad diafol yr ydych, a thrachwantau eich tad a fynwch eu gwneuthur." Am y ihai da— " 0 Dduw y maent;" ac am eu proffeswyr hwythau, gellir dyweyd eu bod yn ymdrechu rhodio yn ol cyfarwyddiadau Duw, trwy arwain cymeriadau dichlynaidd a duwiol. Yn mhlith ereill o'r sefydliadau sydd yn ein plith, saif yr ysgol Sabbathol fel un yn amlwg iawn, ac ar amryw ystyriaethau yn amlycach na'r