Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 177.] MEDI, 1868. [Ctf..XV. BYWYD A MAEWOLAETH JOSEPH. Mae cywreinrwydd ar amserau yn siarad llawer am oriau olaf dyn. Myn rhai dynion weithiau fod ychydig frawddegau a lefarir yn y glyn yn cynwys mwy o obaith am fywyd diddarfod na blynyddau hir o dclefnyddioldeb gyda chrefydd. Ond nid felly y llefara'r Beibl. Nid yn aml mae'r Beibl yn dyweyd dim am ddiwedd bywyd, ond y mae yn dyweyd llawer am y bywyd yn gyíírod- inol felly. Mae eu barn gan y cyhoedd am bersonau ; mae yn gywir yn y cyffredin, ond nid felly bob amser. Yr oedd barn trigolion yr Aifft am Joseph o gryn werth : yr oedd Joseph wedi myned yno fel estron ; wedi byw mewn unigedd yno; wedi bod yn wrthddrych anair ac enllib; ac wedi cyfodi o radd i radd i barch, ymddiried, ac an- rhydedd. Wedi ei farwolaeth peraroglasant ef, a chladdwyd ef yn anrhydeddus yn yr Aifft. Bywyd a marwolaeth Joseph a gaiff fod yn destyn ein hysgrif bresenol. BYWYD JOSEPH. Mae dwy ochr i fywyd pob dyn, amgylchiad- au allanol a bywyd mewnol. Mae pob dyn yn teimlo, ac nid yw hyny yn hynod ar ryw olwg, -.