Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Riîif. 176.] AWST, 1868. [On. XV. HOFFI TRUGAEEDD. "Hoffi trugaredd" yw bod yn garedig, yn drugarog, ac yn dosturiol tuag at bawb a íýddo ruewn angen o'n tosturi, os mewn arngylchiadau i wneud. Grwneud hyn er na byddo cyfreithiau y wlad—cyfreithiau dynion yn gofyn ; rhaid edr.ych ar gyfraith cariad, a dangos trugaredd, ac ymhyfrydu wrth wneud hyny. " Hoffi tru- garedd," bod yn ddiolchgar am gyfleusdra i wneud daioni, a'i wneud yn llawen. Mae "trugaredd" neu haelioni yn tyfu ar yr un gwreiddyn a "gwneuthur barn," yn cael eu dwfrhau â'r un gwlith o'r nefoedd, ac yn " dwyn ffrwythau addas i edifeirwch." Mae barn 'a thrugaredd yn gangenau mor agos, mae y fath gysylltiad rhyngddynt a'u gilydd í'el nad oes modd eu gwahanu ; canys lle nid oes barn neu gyfiawnder, nid oes trugaredd; a ìle nad oes trugaréTdd, nid yw y cyfiftwnder sydd yno ond sur a chwerw. Yn yr ysgrythyrau sant- aidd, maent yn myned law yn llaw—"Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch : tru- garog athosturiol, a chyfiawnywefe." Cyfeiria Solomon at Iygad cyfìawnder ac at ìygad tru- garedd, " Bdryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th fiaen"—