Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f CptjHtjtò a'r ŵjmtm Rmr. 171.] MAWRTH, 1868. [Cyf. XV. GLYN CYSGOD ANGEU. Yn y drydedd Salm ar ugain yr ydym yn cael un o anwyliaid y nef yn edrych yn mlaen gyda'r tawelweh mwyaf at gyfnod ei ddatodiad, gan ymlawenhau yn y Bugail a'i harweiniodd ef trwy ei oes,—"yr Arglwydd." Wele Dafydd yn derchafu ei olwg at y gwir Dduw, pan yr oedd yr holl fyd yn mron yn ngafael ofergoel- iaeth o ryw fath neu gilydd. Os edrychwn ar y byd yr amser hwnw, gwelwn yr Aifftiaid ar lenydd y Nilus yn addoli creaduriaid pedwar carnol, ymlusgiaid, ac ehediaid y nefoedd ; yr Hindwaid^ar hyd y|Ganges yn addoli miloedd o dduwiau a duwiesau hyll a ffiaidd yr olwg arnynt. Y Perisaid yn ymgrymu o flaen yr haul; y Groegiaid yn adeiladu temlau i Jupiter a Minerfa. Yr oedd duwiau lawer ac arglwyddi lawer. Ond pan oedd ofergoeliaeth yn mron mor helaeth a'r byd—pan oedd tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear a'rfagdduybobloedd—wele f'ab Jesse, bugail yn bugeilia praidd ei dad ar wastadeddau Bethlehem, a'i feddwl yn gwbl rydd oddiwrth ffolinebau a gwrthuni y cenedl- oedd uchod, yn der(jhafu ei feddwl a'i galon at y Duw a wnaeth y byd a'r cwbl sydd ynddo— at Greawdydd y nefoedd a'i hestynydd.