Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f €ijttît}0t)ìŵ 'tî ipfttíi. Rhlf. 170.] CHWEFROR, 1868. [Cyf. XV. CASGLU AT ACHOSION CREFYDDOL. "Hefyd am y gasgl i'r saint; megys yr ordeiniais i eg- lwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. Y dydd cyntaf o!r wythnos, pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi." 1 Cor. xvi. 1, 2. 2 Cor. ix. 1—Ì5. Mae yr epistol hwn yn cael ei wneud fyny o fan ddarnau. Mae yn wahanol i'r epistol at y Rhufeiniaid, Galatiaid, a'r Hebreaid. Mae yr epistol at y Galatiaid wedi ei ysgrifenu er gwrth- sefyll cyfeiliornad neillduol; ac felly yr epistol at yr Hebreaid. Ond yr hyn a roddodd fodoì- aeth i'r epistol oyntaf at y Corinthiaid oedd Uawer o fan gwestiynau ag oeddynt yn aflon- yddu aryr eglwys yn Corinth; ac anfonwyd yr epistol atynt er penderfynu a thawelu y cwer- yîon hyny. Mae arddull yr epistol yn hynod o swta {abrubt). Dyma bwnc yr athrawiaeth fawr o adgyfodiad y meirw yn eael ei orphen. Yn ymyl hyny mae yr apostol yn dwyn pwnc o ddyddordeb lleol i mewn : y mae yn rhoddi cyfarwyddiadau o barthed gwneud easgliad i'r saint. Mae yr hyn a ysgrifenwyd at yr eglwys yn Corinth yn cynwysgwersi buddiol a gwerth- fawr i'r eglwys trwy yr holl oesau. 0 gan- lyniad, nis gall fod yn anfuddiol i ni daflu golwg ar yr amgylchiadau cysylltiedig a'r casgl- iad a orchymynai yr apostol i'r Corinthiaid.