Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ŵjmi]st]ìiìi ifr éymtmi Rhit-. 169.] IONAWR, 1868. [Cyf. XV. BAEA Y BYWYD. " Llafuriwch nid am y bwyd a drlerfydcl, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seli(;dd Duw Dad." Ioan vi. 27. "Wedi i'r Iesu borthi y pum mil â phum torth a dau bysgodyn, mynasent ei wneud yn frenin. Meddyliasent hwyrach ei fod yn addas iawn i'r fathswydd; dywedasant, " Éwn yn ddiau yw y proffwyd oedd ar ddyfod i'r byd ;" ac ei fod yn fath gymwynaswr i'r byd, heb gael y parch a ddylasai gan y byd. Neu ynte, feallai y tyb- ient taw manteisiol fuasai cael breuin gwahanol i freninoedd y ddaear, y rhai a gyneìir gan y deiliaid a thraul fawr, i fy w arno ei hun, ac yn alluog i gynal y deiliaid hefyd, fel na buasai raid iddynt enill eu bara trwy chwys eu gwyn- ebau. Neu ynte, feallai eu bod yn golygu bod yr adeg yn fanteisiol i gael breniu fuasai yn alluog i beri i Pilat y rhaglaw a Herod y brenin yswatio ac encilio â gair o'i euau, ac ymlid y Ehufeiniaid, y rhai a'u blinasent yn dost, allan o'u gwlad, ac " adferu drachefn y freniniaeth i Israel." Ond gan nad beth oedd eu hamcanion a'u teimladau, ni allasent wneud dim yn fwy dir- mygus yn ngolwg y Ceidwad mawr na chynyg iddo freniniaeth ddaearol; am hyoy, aeth