Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hunan-laddiad.—Drwg genym hysbysu fod Mr. W. Williams, y Babell, sir Fynwy, wedi rhoddi terfyn ar ei einioes, borau dydd Mercher, y 4ydd o Dachwedd. Aeth allan o*î dý tua saith y borau crybwylledig, ac yn mhen oddeutu awr drachefn, pan aethpwyd i chwil- io am dano, canfyddwyd ef gan un o'i blant bychain yn gorwedd ar y ddaear mewn coed gerllaw ei dŷ, a phan ddaeth ei wraig ato, canfyddodd ei fod wedi cy- meryd ellyn, ac wedi tòri dau archoll dwfn ar ei wddf, ac yn hollol farw. Cynaliwyd trengholiad ar ei gprff, pryd y dychwelwyd y rheithfarn o " wallgofrwyddam- serol." Ymddengys ei fod yn dra isel ei feddwl, yn tarddu oddiar ryw afiechyd, er ys wythnosau cyn iddo gyflawnu y weithred annaturiol: Gadawodd wraig ac wyth o blant ieuainc mewn dwfn alar oblegid ei farwolaeth drist ac anamserol. Galahus. " Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoethJ'—Yn ddi- weddar, cyflwynodd boneddwr y awm anrhydeddus o bum mil o bunau i'r gymdeithas "er efensçyleiddio China." Boneddwr arall o'r enw Samuel Willces, yn perthyn i'r Wesleyaid, yr hwn agychwynasai yn y byd fel masnachydd ar gynllun bychan, a chydag arian benthyg, ond a lwyddodd yn fawr, a danysgrifiodd ei enw i'r Gymdeithas Genadol Wesleyaidd, bedair blynedd yn ol, am un gini y dydd, neu, 365 gini y flwyddyn. Y flwyddyn ganlynol, ychwanegodd ei danysgrifiad i 7 gini y dydd, neu 2,555 gini y flwydd- yh. Parhaodd yr Arglwydd i'w lwyddo—teimlodd yntau y fath hyfrydwch mewn gwneuthur daioni, fel y cododd ei danyssrifiadau y flwyddyn ganlynoli50 gini y dydd ! neu i 18,250 gini y flwyddyn ! Cadw cloron yn fiasus.—Mae F. G. Ruffin, yn rhoddi y cyfarwyddiadau canlynol:—Y cynllun gorau a wel- som erioed i gadw clorcn yn dda a blasua ydyw, eu rhoddi yn haenau mewn blychau, gan orchuddio pob haen a thywod sych. Sycher y tywod os bydd eisiau o flaen y tân. Fe dỳn hyn y gwlybaniaeth o'r gwraidd, a chedwir hwynt yn iach a blasus, nes y ceir cloron newydd yn yr haf canlynol. Dylid rhoddi haen o dywod sych i ddechreu, ac yna, haen o gloron arno, ac felly bob yn ail. Gofaler am gadw y cwbl mewn lle sycíu