Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 54. MEHEFIN, 1858. Cyf. 5 DAEARYDDIAETH YR HINDWAID. Y mae yr Ilindwaid yn genedl hen iawn. Pan oedd ein cyn-dadau yn farbariaid haner gwylltion, yn ym- wisgo mewn crwyn, ac yn cyfaneddu yn y coedwig- oedd, ganoedd o flyneddau yn ol, yr oedd brodorion India yn lled waraidd. Yn y cyfnod boreol hwn, yr oedd ganddynt eu dinasoedd, eu taleithiau, eu teyrn- asoedd, ac hyd yn nod eu hysgolion a'u colegau. Y mae rhai o'r hen gof-adeiladau ydynt yno yn bresenol, yn dangos eu gwybodaeth a'u cywreinrwydd.. Modd bynag, nid oeddynt yn ddoeth yn mhob peth, oblegid nid oeddynt yn adnabod y gwir Dduw; ond addolent yr haul a'r lleuad, tàn a dwfr, daear ac awyr, fel y mae eu plant yn gwneud hyd y dydd hwn. Addolent ddynion ac anifeiliaid, ac hyd yn nod coed a cheryg. Feí y gellwch dybied, yr oedd y grefydd hon mewn rhan yn ffol, ac mewn rhan yn ddrygionus. Un o'r pethau ffol ynddi ydoedd, nad oeddynt i deithio allan o'u gwlad enedigol, na chyfathrachu dim à dyeithr- iaid, os gallent ysgoi hyny. Gan hyny, nis gellir tybied eu bod yn hynod o wybodus am un wlad heb- law yr eiddynt eu hunain. Ond er na wyddent ond y peth nesaf i ddim am ddaearyddiaeth, yr oeddynt, ac y maent yn hynod o falch a hunan-dybus. Tybiant eu bod yn ddysgedig a chywrain dros ben, ac ym- ffrostiant lawer iawn yn eu gwybodaeth. Y maepobl ymffrostgar, gan amlaf, yn debyg iawn o f'od yn dra anwybodus. Os clywch dyn yn balchîo llawer am ei wybodaeth, ond odid nad dyn lled dditwaidd fydcl wedi y cwbl. Cawn weled hyn os ystyriwn y fath dybiau a goleddid gan yr Hindwaid am ddaear- yddiaeth."