Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 48. RHAGFYR, 1857. Cyf. 4. ANERCHIAD. Gyfeillion Hoff,—Wele y flwyddyn ryfedd 1857 ar derfynu. Dim ond un ran o ddeuddeg o'i dyddiau gwerthfawr hi sydd heb eu treulio ; ond er mor agos ydyw y flwyddyn i'w therfyniad, dichon fod rhai o ddarlíenwyr y Tywysydd a'h Gymraes yn nes i derfyn eu hoes a nos Sadwrn eu bywyd. Os felly, dymunwn iddynt daith dda, a therfýn tangnef- eddus, gan obeithio y cawn eu cyfarfod yn ngwlad y dydd, lle y cawn gyd-dreulio yr oes dragwyddol, yn rhyfeddu y gras a'n dygodd yn ddiangol i ben ein taith, ac a'n cyfrifodd yn deilwng i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Mae rhai degau o'n cyfeillion ieuainc a ddarllen- ent ein Hanerchiad am 1856, wedi bod yn ddeiliaid cyfnewidiadau mawrion yn ystod y deuddeg mis a aethant heibio. Pryd hwnw, disgynai pelydron haul gwênau Ehagluniaeth arnynt; ni wyddent beth oedd dydd blin, cymylog, a niwlog, na bh'ts dyfroedd chwerwon mara, glỳn trallodau a chystuddiau. Ond erbyn heddyw, eu hesgyrn a l^n wrth eu cnawd gan lais eu gruddfanau, llwchyweu.hymbörth, a'udagrau yw eu diod. Galwyd rhai o honynt i ymyl gwely brodyr hoff a chwiorydd cu i ymadael mewn dagrau hyd forau mawr yr ail-gyfarfod o flaen gorsedd-fainc y Barnwr cyíiawn. Gwelodd ereill eu rhieni anwyl- í'ad yn huno yn angau, a'r bedd dû, oer, yn cau ar weddillion cysegredig y rhai fuont yn siglo eu cryd, yn gwylio drostynt yn adeg ddigymhorth mebyd, ac yn gyfarwyddwyr iddynt yn nhymor breuddwydiawl a dibrofiad ieuenctyd. Do, do, daeth angau, brenin dychryniadau i lawer teulu, a gwnaeth leoedd gwag