Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ŵjîtnjmjìiìí tit êfjjẅmíL Rhif.24. RHAGFYR, 1855. Cyf. 2. GWERTH GWIR GREFYDD. " Fryn y gwir, ac na werth," Diar. 23, 23. Riiywbeth yn yr enaid yw duwioldeb. Y mae ym- arferiadau crefyddol yn ddiwerth os na fydd crefydd yn y galon; os na fydd y meddwl yn cael ei íywodraethu gan egwyddor uniawn. Y mae tuedd mewn dynion i dybied mai rhyw beth o'r tu allanyw crefydd, ag i roddi pwys gormodol ar ei hymarferiadau allanol. Y mae crefydd rhai yn gynwysedig mewn ffyddlondeb a diwydrwydd; heb fawr, neu ddim o gymundeb rhwng eu heneidiau a'r Arglwydd. Diff- yg egwyddorion yw diffyg mawr yr oes hon, ac r.icl diffyg ymarí'eriadau crefyddol. Buasai yn well wrth lai o ymarferiadau crefyddol,* a mwy o egwyddorion da—mwy o grefydd bersonol a llai o grcfydd y lluaws, mwy o ddidwylledd, a llai o ymddangosiadau. Gocheiwn wncuû show o grefydd: "Fy mab, moes i mi dy galon." Y galon y mae Duw yn geisio gan bob un o honom; ac os na châ, bydd ein holl roddion ereill yn hollol ddiwerth yn ei olwg. A ydyw Duw wcdi cael y galon ? Pa le y mae'r meddwl, a pha beth yw natur y myfyrdodau ? A ydym ni wedi ymgysegru yn hollol i wasanaeth crefydd? Rhaid peidio rhanu y galpn rhwng * Nicl oes oisiau lleihau yr ymroadau crefyddol; ond cryfhau crcfydd yn y galon. Nid ar yr ymarferiadau y mae y bai fod crefydd bersonol mor isel; ond iselder crefydd bersonol yw'r achos fod yr ymurfcriadau mor ocr a ffurflol.—üol.