Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ŵjiiujmjìẁ a'x ŵjtmm Rhif. 21. MEDI, 1855. Cyf 2. PECIIADUÍtlAID YN DENU. "Fy mab, ospechaduriaida'thddonant, na chytuna," Diar. 1, 10 Mae y byd dynol, yn ei gyflwr moesol, yn cael ei ranu i ddau ddosbarth arbenig—drwg a da. Ad- nabyddir y rhai hyn cilwaith wrth wahanol enwau. Gelwir y rhai drwg wrth yr enwau annuwiolion, pechaduriaid, &c. ; a'r rhai da a gyfenwir yn saint, duwiolion, &c. Y mae pob dyn yn perthyn i un o*r ddau ddosbarth hyn ; ac fcl y cyfryw, yn gwneud ei ran, yn ymwybodol neu yn anymwybodol, i gryfhau dylanwad y dosbarth y perthyna iddo. Llyfr cyfar- wyddyd y rhai da yw y liibl. Wrth hwn y flurfiant eu cymeriadau. Yn ei oleuni y teithiant, ac ar ei Grist y pwysant. Hwn sydd yn eu dysgu am gyflwr andwyol y byd, a'r fibrdd dra rhagorol i'w enill i gyflwr gwell, ac i wisgo nodwcdd tcilwng o Dduw. Y mae nodwedd pob dyn, i raddau pell, yn ymddi- bynu ar nodwedd ei gymdeithion beunyddiol; cofleidia eu hegwyddorion, yfa eu-hysbryd, copia eu siamplau ; ond ni fydd yn ymwybodol o hyny nes y byddo ei gymeriad wedi ei fathu yn molil dylanwad eu cyfeillach i'r un fl'urf a'r eiddynt hwy eu hunain. Gan hyny, cam gwir bwysig yn hanes bywyd pob dyn ydyw yr adeg y mae yn dewis cyfeillion. Bydd cu bol arno i dragwyddoldeb, naill ai er ei wae neu ei wynfyd. Herwydd hyn, y mae cynghor Solomon yn hynod pwrpasol a phwysig, ac yn teilyngu sylw mwyaf difrifol pob dyn, yn neillduol dynion ieuainc. " Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna."