Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Äça^ìj a'r fpraŵ Rhif. 19. GORPHENAF, 1855. Cyf 2. MARWOLAETH. "Dygl bwynt ymaith megys âllifeiriant; y maent fel hûn : y borau y maent fel llysieuyn a newidir. Y borau y blodeua, ac y tyf; prydnawn y torir ef ymaith, ac y gwywa."— Salm 90, 5, 6. Mae y Salmydd yma yn dangos breuolder einioes dyn; a gesyd ger ein bron, mewn cymhariaethau tarawiadol, mor ddisymwth, yn aml, y mae angau yn tori dynion i lawr. Ypeth cyntaf a gawn yma ydyw angau yn cacl ei gymharu i " lifeirìant."—Fel llifeiriant y mae yr amgylchiad yn aml yn ddisymwth. Yn y borau lawer gwaith, gwelwyd yr afon yn rhy eiddil braidd i wthio ei hun cìrwy gèryg a gro ei gwely, yr anifeil- iaid yn brefu gan syched ar ei glàn, ac olwynion peirianau mawrion y gymydogaeth yn ddigyffro ar eu hecheli o ddiffyg dwfr i'w troi. Wrth edrych o amgylch nid oes neb yn dysgwyl am y llif. Y mae glaswellt yn tyfu yn ffordd y dyfroedd, a'r plant yn chwareu ar wely y llif, ac yn pigo y llyfnion gèryg a naddwyd gan lifogydcí y dyddiau gynt. Y mae yr haul yn tywynu feí arferol, a'r wybren yn hollol ddi- gwmwl; ond y mae rhyw dduwch i'w ganfod y pen uchaf i'r cwm ; ond cyn nos y mae y llifeiriant yn gwneud ei ymddangosiad, yn gorlifo y ceulanau, nes y mae pawb yn synu o ba le y mae wedi dyfod. Fel hyn y mae yn aml gydag angau. Yn y borau y mae holl aelodau y teulu yniach; ond cyn yr hwyr y mae un neu ragor wedt ei gymeryd ymaith gan afon angau i'r byd mawr. Nid oedd neb yn