Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ŵîttnjMjìẃ a'r ÉPllẀ* Rhif. 14. CHWEFROR, 1855. Cyf. 2. Y DYHNAID O WLAN; NKU DDECREUADAU BYCHAIN. Pwy nad yw yn hysbys o'r pwys sydd mewn tegan- au? a phwy, yn bresenol, pan ydyra wedi dysgu ein bod yn ddyledus i drychfilod arn ein creigiau sialc ; a phan wyddom fod yr un creaduriaid distadl wedi britho ein moroedd âg ynysoedd cwrel, a ddiystyra "ddechreuadau bychain?" Os edrychwn yn graíHym ar fywyd, cawn allan, fod pob peth ynddo, fel mewn anian, yn bwysig ac addas i gynyrchu effeithiau mawreddog. Dywed y Bardd Seisnig,—■ There is a tide in the affairs ot' men, WHiéhj talten at the tìood, leads on to fortune. Ac y mae hyn yn wir; ond y mae hefyd ffrydiau na sylwir arnynt, a gwyntoedd symudadwy ar fòramser, y rhai, dim ond eu dàl a'u defnyddio yn ddyladwy, a gynorthwyant ein cynydd yn ogystal a'r llanw mawr ei hun. Y rnae ein darllenwyr, ond odid wedi sylwi, fod cyfoeth mawr wedi ei gasglu gan ddyn- ion na chawsant fawr o gynysgaeth i ddechreu, ond trwy ddiwydrwydd a gwroldeb a ddaliasant ar gyfleusderau a ollyngid ymaith gan ereill trwy ddiogi neu ddiystyrwch. Gosodwn ychydig o engreifítiau o'r natur hyn o flaen ein darllenwyr gan ddechreu gydag un, yr hon sydd yn fyw yn bresenol, yn Ffrainc, ac felly dangos y pwys sydd mewn dyrnaid o wlan ! Merch i fasnachwr o Marseille, oedd Eugònie, a phan yn ieuanc priododd â swyddog Catalanig, yn