Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ẃ}mi}0i}ìẁ û êymm. Rhif. 11. TACHWEDD, 1854. Cyf. 1. SEFYLLFA BRESENOL Y CRISTION. "Oblegid yr ydwyf yn cyfrifjnad yw dyoddefiadau yr am- ser presenol hwn,yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddat- guddir i ni," Rhuf. 8, 18. Mae sefyllfa y Cristion yn y byd hwn, yn scfyllfa o ddyoddefiadau. Ni chyfyd y dyoddefiadau oddiwrth grefydd ynddi ei hun, canys "ei ffyrdd hi ydynt ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau ydynt hcddwch." Mae crefydd ynddi ei hun yn lloni y galon, yn byw- iocäu yr ysbryd, ac yn sirioli y wynebpryd. Gesyd y palas dynol ar ael mynydd Calfaria; glanha hen ff'enestri llychlyd y deall, lleinw ystafelloedd y cof â gwireddau gwerthfawr y Bibl, dodrefna ystafelloedcl y serch â phethau oddiuchod, a chyneua cìàn ogariad at Dduw a'i waith ar aelwyd y galon, yr hwn a ys- twytha yr ewyllys, ac a bura y gydwybod, nes y byddo yn ddigon cryf ei lungs i floeddio tangnefedd mor uchel nes diaspedain drwy ororau cyfandir y byd tragwyddol. Y mae Crist ei hun wedi dyfod i fyw i'r tŷ ; a'r Ysbryd Glân yn preswylio yn yr ys- tafelloedd. Ac y mae bwrdd yr ystafell wledda wedi ei hilio â dysgleidiau gwerthfawr maddeuant. Cys- godir y palas rhag gwynt ystormus a rhew blwng y gogledd gan goedydd tewfrig bygythion a gorchym- ynion gair l)uw ; ac o'i flaen y mae gwastadeddau diderfyn a phêr-lysieuawg yr addewidion. Yn hwn y mae " rhodí'eydd y Breuin," a cherbydau y gogon- iant yn gyru yn ol ac yn mlaen, ac " afon bywyd" ýn ymddolenu drwy ei ganol heb un dòn gynhyrfus