Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Ŵpiprçìẁ a'r íipŵi& Rhif. 9. MEDI, 1854. Cyp. 1. NATUR GWEDDI, A'R DDYLEDSWYDD O WEDDIO. 1. Natur Gioeddi.—Nid gweddi ydyw plygu ein gliniau, ac agor ein geneuau i draethu ymadroddion ardderchog, a gosod allan fawredd a gwybodaeth. Gallem ddweyd llawer yn nacäol, yr hyn nad ydyw weddi. Gallwn fod fel y Publican gynt yn curo ein dwyfron a llefain, "0 Arglwydd, bydd drugarog wrthyf fi bechadur," ac heb fod yn gweddio; ie, gallem fod yn yr agwedd fwyaf ddifrifol a gostyng- edig i olwg dynion yn gweddio, eto i gyd â'n haberth- au yn ffiaidd gan yr Arglwydd. Pa beth ynte yw gweddi? Tywalltiad y galon gerbron Uuw—deisyf- iad taer a gostyngedig am ryw fendith neu fendithion arbenig yn cael eu cyflwyno gerbron Duw yn ddirgel neu gyhoeddus. Nid yw gweddi, fel y crybwyllais eisioes, yn gymysgedig mewn geiriau, nac ychwaith mewn ystumiau corfforol. Dyn yn fynych a edrych ar agwedd allanol; •( Ond nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw; Duw a edrych ar y galon ; ar y truan a'r cystuddiedig o ysbryd, yr hwn sydd yn crynu wrth fy ngair. Calon ddrylliog ac ysbryd cystudd- iedig, O Dduw, ni ddirmygu ; efe a iacha y briwiedig o ysbryd, ac a rwyma eu doluriau hwynt; agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno mewn gwir- ionedd. Y tylawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i elybu ; efe a gyfyd y tylawd o'r llwch, a'r anghenus o'r domen, i'w osod gyda phendefigion, 'ie, gyd-a phendefigion ci bobl." lthaid cael y galon i'i» cyfryw agwedd a hyn ouide bydd ein gweddiau yn anghy-