Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f ŵjîntjmjìẃ ìì ŵjtnrnŵ Riiif. 7. GORPHENAF, 1854. Cyf. 1. CHINA. (PAE.HAD O B.IFYN MAI, TÜ-DAl,, 88.) Nid yn unig mae China yn un o'r ymherodraethau mwyaf a hynaf yn y byd, ond mae hefyd yn un o'r rhai mwyaf gwareiddieclig. Gallwn ddywedyd llawer wrthych i hrofi hyn. 1. Gallwn ddywedyd wrthych am orchest-weithiau cyhoeddus y bobl. Gallwn ddweyd wrthych am eu mûr mawr sydd yn amgylchu ei gorllewin ogleddol, gydag ochrau a thros benau mynyddau uchel, yn ymestyn dros afonydd a chymydd am bymtheg cant o íilldiroedd ; ac yn mhob man mae y mûr hwn yn ddigon llydan i chwech i farchogaeth arno ochr yn ochr. Mae iddi hefyd ei thyrau uchel, mewn pelldor cyí'ar- tal oddiwrth eu gilydd: mae mor fawr fel maent wedi cyfrif ei bod yn cynwys cligon o ddefnydd i adeilacíu pob tŷ ag sy yn Lloegr, ac yn ei thyrau yn unig gymaint ag yr acleilaclai ddinas Llundain! Adeiladwyd hi ddwy fil o flyneddau yn ol, a gellwch weled ar unwaith nas gallasai fod yn waith dynion anwareiddiedig. Gallwn cldweyd wrthych am ei clyfr-ffos mawreddog, sydd yn cysylltu Pckin ac Han- choo-po, yr hwn sydd yn ddigon llydain a dwfn i dderbyn Uongau mawrion; neu gallwn fyncd yn mlaen i ddarlunio i chwi ei thyrau o briddfeini (porcelain totcers), yr hyn holl a ddengys ei bod yn mhell yn mlaen mewn gwareidd-dra. 2. Heblaw ei gorchest-weithiau cyhoeddus, gallwn ddweyd wrthych am ei dyfeisiadau a'i dadguddiadau. Gwyddwch i gyd am gwmpawcl y morwr, a pha fodd