Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 118.] HYDREF, 1863. [Ctf. X. YMDDYDDAN TEULUAIDD. PEN. V.—GWEDDI TR AbGLWYDD. Ar foreu teg, dysglaer, ymgynullodd aelodau ieuengaidd y teulu yn nghyd dan gangau pren eangfrig a safai yn nghanol dernyn gwyrddlas o flaen y ty, ac yr oedd y gwynebau siriol a'r chwerthin iachus yn dangos nad oedd- ynt eto dan bwys un gofal, nac yn cael eu blino gan un gofid. Boreu da, dywedai y tad pan ddaeth atynt; clywais un o honoch yn dywedyd, " Da iawn, Mr. Philosophydd." Atolwg Maude, pa un o'r boneddigion ieuainc gwyddfodol sydd wedi cyrhaedd yr enwogrwycíd anrhydeddus hwn ? Fy mrawd parchus Willie, nhad. Yr oeddwn yn dangos iddo fraslun o fwthyn garddwr; a chan mai methiant teg oedd, erfyniais arno, wedi edrych arno, i'w ddinystrio; ac ar ol hyn aeth y boneddwr ienanc yn hyawdl a mawr- eddog iawn ; a chan ymgrymu yn hynod foesgar, dywed- odd, Yr wyf am wybod, chwaer garadwy, a yw yn ddyled- swydd arnaf, fel y dywedai fy nhad, ac a ydyw yn ddy- munol gcnyf i wneud eich dymuniad, ac y mae yn cldrwg genyf fod eich cais yn afresymol. Dan gyhuddiad mor bwysig beth oedd cich amddiffyniad Maude ? Dywcdais, Willic, tebyg ein bod oll yn afresymol weitíiiau, ond yn mha bcth yr ymddangosodd y gwendid hyny ynof' yn awr ? Dymunasoch arnaf wneud yr hyn nis gallaf, wrth ofyn i mi ddiuystrio y papyr hwn, oblcgyd nid ocs dim yn cacl ci grcu, ac ni ddinystriwyd dim cr crcad y byd.