Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 116.] AWST, 1863. [Cyf. X. TREFNIDEDD GYMDEITHA80L. LLYTHYR VI. Gelwib pawb ag ydynt yn gweithio, a thrwy liyny yn cynorthwyo i ychwanegu cyfoeth.y wladwriaeth, yn gynyrchwyr. Y mae pawb yn treulio, ond nid yw pawb yn cynyrchu. Yn mhlitli y rhai nad ydynt yn cynyrchu gellir rhesu plant bychain, cardotwyr, lladron, pobl afiach, a hen bobl ag ydynt wedi myned yn rliy hen i wcithio. Y mae y rhai hyn oll yn bwyta ac yfèd, ac yn gwisgodillad; y maent yn treulio, cr nad ydynt yn cynyrchu. Y mae pawb ag ydynt yn treulio ac heb gynyrchu dim yn tylodi y wladwriaeth ; ac y mae yn eithaf amlwg pe byddai y treulwyr yn lluosocach na'r cynyrchwyr mewn gwlad, yr elai y wlad hono i ben. Y mae y plant yn rliy ieuainc i wneud gwaith, neu y maent yn yr ysgol yn der'byn addysg ac yn casglu nerth. Gwna yr oddysg a dderbyniant eu cynorthwyo i enill mwy nag a wnaent hebddi wedi iddynt fyned i weithio. Mac y syniad nad oes eisieu nemawr o addysg ar fachgen neu lodes a fwriedir i ddilyn galwedigaethau cylíredin bywyd yn llawcr rhy gyffredin yn y wlad. " Uch fi," meddai'r dyn neu'r ddynes, "'does dim eisicu llawer o ddysg arno fe neu arni hi, gweithio sydcl o'u blaen hwy druain." Hen ddywediad ffol yw hwna. Nid oes dito trueni mcwn gwaith ynddo ei luinan. Mae llafur yn an- rhydeddus, ac yn fendithiol i gorff a meddwl, ond i ddyn beidio gwcithio mwy nag y medr ei gyfansoddiad oddef. Mae gorlafur mac'n wir yn fèlldith, ac yn dwyn dyn i lef'el yr anifail; ac nid yw pobl a orweithir, lèl dosbarth, çr fod rhai cithriadau anrhydeddus, yn edrych ar ddim feí