Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 111.] MAWRTH, 1863. [Cyf. X. TARFWCH YR ADAR. " Pan ddisgynai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a'n tarfai hwynt." Nid oes dim braidcl yn peri mwy o ofid i ddyn duwiol, gweithgar, na chael ei aflonycldu wrth ei waith. Dyma Abram, un o'r crefyddwyr gloewaf íu ar y ddaear, wrth gyflwyno addoliad i'r gwir Dduw, yn cael ei flino gan haid o adar. Mae gan bob addolwr ryw adar drwg i wylied rhagddynt. Myn adar ysglyfaethus ddifa aberth y credadyn yn ngwydd ei lygad. Fe fu Abram yn tarfu hyd fachlud haul, rhag icldynt halogi yr hyn a gysegrold efe i'w Dduw. A phan dderbyniodd Duw yr aberth, y cafodd ef lonydd gandciynt, a dim cynt. Y mae peth mawr o ebyrth ysbrydol y saint yn cael eu halogi a'u gwneuthur yn gwbl anghymwys i'w cynyg i Dduw, o cldiflÿg cadw golwg ar allor y galon, a tharfu yr adar gwancus sydd yn disgyn arni. Peidiwch gadael iddynt ddyfod yn agos i'r allor. Tarfwch hwynt ymaith yn ddiymaros. Fe fu Abram yn tarfu o naw o'r gloch y boreu hyd fachlud haul, cyn cael concwest arnynt. Y mae cadw aberthjîí i Dduw ar allor y galon, yn ddigon o iawn am y boen o clarfu hyd íachlud haul bywyd, heb son am enill fí'afr Duw. Nid oes yr un gorchwyl mor bwysig, eto mor llawn o rwystrau, ac felly yn gofyn am gymaint o ddyfalwch, ag adcloli Ditw! FoD GAN BOB ABDOJLWR RYW ABAR ABGAS YN ArLONYDDU ARNO WRTH GEISIO ADDOLI Duw. Adar gweledig oedd yn blino Abram, ac yn disgyn ar