Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f #ptjgf|à $** f tjmrne£ Ëhip. 110.] CHWEFROR, 1863. [Cyf. X. COFIA. Yn aral ìawn yn yr ysgrythyrau santaidcl y gelwir arnom gofio. " Cofia y dydd Sabbath, i'w santeiddio ef," Exod. xx. 8. " Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw," Deut. vii. 18. " Ônd cofia yr Arglwydd dy Dduw, canys efe sydd yn rhoddi nerth i ti," Deut. viii. 20. " Cofia y dyddiau gynt," Deut. xxxii. 7. " Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd," Joh iy. 7. "Cofia yn awr dy Greawdẅr," Preg. xii. 1. Llawer o enghreifftiau ereill ellid osod gerbron. Y cof yw y gallu hwnw yn yr enaid sydd yn derbyn syniadau a delweddau i mewn, yn eu dal ac yn eu hadgynyrchu pan fyddo amgylchiadau yn galw. Dywed yr anfarwol Loclte, "Mai ystordy ýr enaid yw i gadw y meddylddrychau erbyn yr amser y hyddo eu heisieu rliagllaw." Mae y meddwl mor fach fel nas geill gael mwy nag un meddylddrych dan sylw ar unwaith. Mae yn dda gan hyny gael ystafeil i osod y cyff (stoch) i fyny erbyn amser ac amgylchiadau dyfodol; ac y mae yr arsyniadau a roddir i mewn yn cael eu hol allan yn awr ac yn y man, fel y byddo eu heisieu, heb gymhorth y gwrth- ddrychau hyny a'u cynyrchasant ar y cyntaf. Mae cof rhai dynion yn af'aelgar iawn; ond oddieithr adnewyddu ar- graffiadau a wnaed gan amgylchiadau ar y meddwl yn awr ac yn y man, ymddüeant yn raddol oddiar lechau y côf, nes na fÿddont yn dylanwadu dim ar y nodwedd er daioni. Y cof sydd yn argraffu urddas foesol ar ddyn, trwy yr hon y geill adolygu yr hyn a aeth heibio, ac wrth hyny i ragolygu yr hyn a fydd eto i raddau mawr. Y gallu rhyteddol hwn sydd yn eangu ei ddedwyddwch, neu