Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŷ ŴympyWifî êymm. Rhif. 109.] IONAWR, 1863. [Cyf. X. Y PWYS I WEITHWYR IAWN DDEFNYDDIO Eü HAMSER. Y gweithwyr ydynt y dosbarth pwysicaf yn y wladwriaeth. Trwy offerynoliaeth y gweithwyr y rhydd y ddaear ei ffrwyth er diwallu ei thrig- olion; a thrwyddynt hwy y gwneir gwisgoedd clyd, a thai heirdd a chysurus. Dyma y dos- barth sydd yn disgyn i gilfachau y mynyddoedd er dwyn allan eu trysorau. Dyma y peiriant mawr sydd yn ysgogi masnach y byd. Ond er mor werthfawr a phwysig ydyw eu gwasanaeth, bach yw eu parch gan lawer, Y moddion mwyaf effeithiol i'r gweithwyr er eu derchafu i'r parch a'r anrhydedd hwnw sydd yn gweddu i'w sefyllfa, ydyw gwneud "iawn ddeinydd o'u hamser." Amser ydyw un o'r pethau gwerth- fawrocaf sydd yn perthyn i'n byd ni, ac y mae pwys annhraetholynymddibynu ar ei ddefnyddio yn briodol. Ymddiriedir cyfran o hono i ofal pob dyn, a bydd ei gysur amserol a- thragy- wyddol i raddau pell yn ymddibynu ar y defnydd a wneir o hono. Y mae y rhan fwyaf o bethau y byd hwn ag y gellir eu hadferyd i raddau ar ol unwaith eu colli; ond am amser, anmhosibl adferyd yr un foment o hono. Bydd yr hyn a gam dreulir o hono wedi dianc am byth o'n gafael, gan ddwyn ei ddylanwad gydag ef yn