Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD A'R GYMRAES. Riiif. 13. IONAWR, 1853. Cyf. II. HAUL Y CYFIAWNDER. " Ond haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, á meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan ac a gynyddwch megys lloi pasgedig."—Malachi, Llyfr am Grist y\v y Bibl ; dysgu y byd am Grist y\v f.'ì amcan ; llanw y byd âg ysbryd Crist, ac argraffu delw Crist ar ddynion wedi ei eholli, ydyw ei ddyben. Diys- bydda holl natur yn ei mawredd, ei chaderuid, ei phryd- f'erthwch, a'i defnyddioldeb wrth roddi dychymyg ì'r byd o Grist. Os ymof'yiiir atn gadernid, wele graig ysgythrog, ar yr hon y bu ystormydd oesoedd, a thònau eynddeiriog y weilgi yn curo, ac yn dywedyd, Un f'el myfi mewn eadernid y\v. Os ymofynir am ei degwch, cyrhaeddir V lili brydferth a theg gerbron, a chyhoedda ef' yn ar- dderchocach na Solomon yn ei oìl ogoniant; ac ni chaiff rhosyn Saron f'od yn ddystaw am ei harddwch, Dygir y ffynon dryloyw, byth-fywiol, a f'wrlwina allan o'i chyt'- lawnder, i fynegi ei gyfiawnder adfywiedig ef, sydd yn chwyddo byth i'r lan. Gwysir y Llew i bortreiadu ei fawreddigrwydd a'i ddyledogrwydd, ac ni omedda yr ^aul gyhoeddi ei fawredd a'i uwehafìaeth ; " Ond haul y cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw." Y geiriau bygythiol rhagflaenorol a gyfeirient at ddyfod- iad Iesu Grist yn y cnawd, a'i ddyfodiad wedi hyny yn niuystr Jerusalem. " Wele fì yn aníbn fy nghenad (sei' Ioan Fedyddiwr, ebe Iesu Grist, yn yr adnod gyntaf o'r bennod flaenorol), yn ddisymwth y daw yr Arglwydd i'w deml." Ymddangosodd y Messia yn ol y dysgwyliad am dani, ond nid fel y dysgwyliasid ef; am hyny gofynir P«y a oddef ddydd ei ddyfodiad ef. Pan ddaeth yn y