Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWE Ehif XII.] MAWRTH, 1856. [Llyfb I. ÄttinfcMajtr % f»iatj> Yn ein hysgrif flaenorol cymerasom olwg ar dduwinyddiaeth y Sabath; rhaid i ni yn awr ddyfod at y ddyled- swydd ymarferol o santeiddio y Sabath. Mae santeiddio y Sabath, pan y cym- wysir ef at Dduw, yn golygu neillduad y dydd i ddybenion cysegredig ; ond y mae ei santeiddiad, pan y cymwysir ef at ddynion, yn golygu defnyddio a threulio y dydd i'r dyben hwnw. Yr un meddylddrych gysylltir â'r ymad- roddion—" santeiddrwydd a weddai i'th dŷ di O Arglwydd byth"—a " chofla y dydd Saboth i'w santeiddio ;"—fodein myfyrdod a'n gwasanaeth ar y dydd hwn i fod yn gysegredig i waith yr Ar- glwydd. Ymofynwn Pa fodd a phaham y dylem sant- EIDDIO Y SABATH? Pa Fodd ? Mae yr ysgrythyrau wedi eu britho â chyfarwyddiadau, a da y gwnawn fod yn dal sylw arnynt. Trwy barotoad prydlawn erbyn y delo.—M&e hyn yn cael ei dybied yn y gorchymyn i'w santeiddio—" Cofia y dydd Sabath i'w santeiddio." Nid yíi unig " cadw yn santaidd y dydd Sabatíí," ond cofia y dydd i'w santeiddio, fel ag i barotoi yn brydlawn erbyn y delo. Cofia boreu Llun, fel y byddo y goruch- wylion ar ben yn brydlawn prydnawn Sadwrn; ac nid fod y Sabath yn cael ei halogi cyn y delo trwy anmharodrwydd ato. Mae fod cyfrifon y gweithfaoedd —taliadau y clybiau—marchnadoedd ar y Sadyrnau—a'r mashachau hwyrion, oll yn anfantais i santeiddio y Sabath. Byddai cyfnewidiad yn y pethau hyn j yn ychwanegiad gwerthfawr ar y cyf- leustra i santeiddio y Sabath. Dylid myned i orwedd yn gynar nos Sadwrn, fel y caffo y corff ddigon o amser i ddadebru er bod yn fywiog i addoli Duw yn ei dŷ : ond, yn rhy fynych, de- allir wrth agwedd gysglydy òorff na bu parotoad erbyn y dydd. Parotoir gan ddynion erbyn amgylchiadau eraill; os bydd taith i fyned iddi, neu ryw orchwyl neillduol i'w gyflawni, eir i orwedd yn gynarach er ymgymwyso at hyny. Dylai y Sabath gael yr un chwareu teg, os mynir ei santeiddio. Mae y galwed- igaethau, a'r masnachau hwyrol nos Sadwrn, yn ei gwneyd agos yn anmhos- ibl i gadw yn santaidd y dydd Sabath. Mae ymbarotoad yn ofynol, er bod fel gweision ffyddlon yn disgwyl dyfodiad eu Harglwydd, Trwy gysegriad oyjiawn o'r holl ddydd i'w amean piiodol.—Dydd i addoli yr Arglwydd yn gynulleidfaol ydyw y Sa- bath, " i fyned i mewn i'w byrth ef â diolcb, ac i'w gynteddau â mawl.'' Mae eisiau, nid yn unig orphwys arno, gall yr anifail wneyd hyny, ond hefyd ei santeiddio. Mae aros gartref hy^ yn nodi ddarllen y Bibl, os bydd iechyd ae amgylchiadau yn caniatau i fyned i dŷ yr Arglwydd, yn halogiad arno. Ni dderbynia yr Arglwydd yr un eyf- lawniad o'n heiddo fel gwasanaeth cym- eradwy os bydd yn euog o lofruddio dyledswyddgrefyddol arall—mae gwaed y naill ar y llall. Yn ngwaith crefydd gymdeithasoly mae y Sabathi'w dreulio yn gyfan. Yr oedd yr Arglwydd wrth sefydlu moddion cymdeithasol yn rhag- weled mai byny fyddai oreu i grefydd