Skip to main content

GWEBINWít. Rhd? XI.] CHWEFEOE, 1856. [Llyfe I. | SafraíJ. Mae gelynion Cristionogaeth yn gwisgo llawer ffurf yn eu hymosodiad arni. Cynygir ymosodiad yn awr ar y Sabath, dan esgus gofalu am gysur a dedwydd- wch y dyn tlawd. Nid rhaid i ni wneyd esgusawd dros alw sylw ein darllen- wyr at y dydd Sabatb. Edrycher arno Yn nwyfoldeb ei osodlad. Wedi i'r Arglwydd ddwyn holl adail fawr y greadigaeth i ben, a gosod ei f'am arni mai " da iawn ydoedd," crewyd dyn ar brydnawn y chweched dydd. Yr oedd y palas wedi ei ddodrefnu cyn dwyn y dyn iddo—y lampau nefol wedi eu crogi yn y nen—y carpedau symudliw dros ei lòriau oerion—y ffrydiau grisialaidd yn edrych yn siriol arno, a holl natur yn barod i weinyddu iddo. Yr oedd anian fel telyn a'i thanau yn dýnion, ond heb fysedd i'w chwareu; ond ar brydnawnychweched dyddcrewyd dyn î fodyn breswylydd y palas mawreddog, ac yn greadur galluog i chwareu y delyn, ac i gyflwyno moliant y greadigaeth i'r crëwr Hollalluog ;—a'r seithfed dydd, dranoeth i'w greadigaeth, oedd y Sabath. Y Sabath oedd y diwrnod cyntaf gafodd. Ganmai gwasanaethü Duw oedd prif amcan ei fodolaeth, yr oedd yn eithaf rhesymol iddo ddechreu ei fyd gyda'i brif waith. "A Duw a fendigodd jr seithfed dydd ac a'i sancteiddiodd ef." Gnrphwysodd, bendithiodd, a sancteidd- iodd ef— Gorphwysodd er esiampl i ddyn; bendigodd ac sancteiddiodd ef trwy ei neillduo a'i gysegru i'w wasan- aeth. Sefydlwyd y Sabath, nid trwy orehymyn, ond trwy esiampl. Yn awr y mae yn natusiol i ni ganfod fod cadw y Sabath yn ordeiniad i ddyn yn ei gyflwr cyntefig. Er mai bŷr iawn yw y crybwylliadau a gawn am y Sabath o'i sefydliad yn Eden hyd ei gyhoeddiad ar Sinai; eto nid yw hyny mewn un modd ynprofl. nad oedd y Pátrieirch yn ei gadw. Nid yw absenoldeb crybwyll- iad am ei gadwraeth yn un prawf na chedwid ef, os nad oes sicrwydd o'i es- geulusiad neu ei ddiddymiad; onide, ar yr un tir y proíir nad oadd aberthu, o Abel hyd Noab, yspaid pymtheg cant o tìynyddau; nac enwaedu, o Jósuah hyd Jeremiah, yspaid wyth cant o fiyn- yddau, oblegid nad oes crybwylliad am danynt; ond a dybiwn ni fod holl dduwiolion yr oesau hyny wedi esgeul- uso ordeiniadau yr aberthiad a'r en- waediad. Ond y mae awgrymiadau am gadw y seithfed dydd yn yr oes batri- archaidd. Barna rhai mai y Sabath oedd y dydd " wedi talm o ddyddiau,*' ar yr hwn yr offrymai Cain ac Abel ffrwyth y ddaear a brasder y defaid i'r Arglwydd. Yr oedd sylw o'r seithfed dydd yn cael ei wneyd gan Noah yn yr arch—" Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golom- en eilwaith o'r arch." Paham yr oedd sylw neillduol yn cael ei roddi o'r rhif saith, os nad oedd rhyw syniad o ddwy- foldeb y seithfed dydd ar eu meddwl. A pha fodd y mae holl genhedlaethau y ddaear yn gwneyd hyny ? Oníd yw yn debygol iddynt ei gael trwy draddodiad oddiwrth Noah pan ddaeth ef a'i deulu allan o'r arch ; oblegid nid oes unrhyw arwyddlun nac ordeiniad yn ein dysgu i ranu ein hamser i seithau. Mae yr haul yn myned bob yn gam o'r Gogledd i'r De i fesur ein blynyddoedd. Mae y lleuad yn newid yn y De—ymsymud tua'r Gogledd, gan fwyhau a dyf'od yn llawn; try yn ol—lleiha a deríydd yn