Skip to main content

GWERINWR. Ehif VI.] MEDI, 1855, [Llypr I. &i\tniw$ Y mae yn hawddach desgrifìo Ath- rylith na'i ddarnodi. Dywed Dr. John- son mai meddwl o alluoedd cryfion at hob peth yn gyffredinol, yn cael ei droi yn ddamweiniol at un peth,—llawer o ffrydiau nerthol yn oael eu troi i redeg mewn un gwely, yw. Y mae y darnodiad yn agored i wrthwynebiadau, ond nid ydym yn bresenol yn golygu cynyg ei well. Perthyn i Athrylith allu i yreu. Mewn athroniaeth—dargenfydd ddeddf- au ac egwyddorion newydd. Mewn cel- fyddyd—berthynasau newyddion rhwng galluoedd ac elfenau anian. Mewn barddoniaeth—yr hyn sydd hardd a goruchel yn y bydysawd. Felly y mae y prif feirdd, athronwyr, a dyfeiswyr, yn ddyruon o Athrylith. Perthyn i Athrylith hefyd fath o glir- drem (intention). Ar ba beth yr ymddibyna Athrylith ? Ai ar gyfansoddiad gwreiddiol y corff neu'r meddwl, ynte ar addysg ? Nid ydym yn golygu fod haeriad Dewi Wyn yn gywir, pan ddywed—" Dawn Natur 2>ob dyn ytwyd." Ymddengys i ni fod gwahaniaeth gwreiddiol yn nghyfan- soddiad meddyliau dynion. Nid pob dyn, er ymdrechu ei oreu, a ohael yr addysgiadau goreu, a fedrai g^fansoddi " Homer," neu " Goll Gwynfa;" ac nid aml yw'r meddyliau y gellir eu cryíhau a'n coethi, nes eu gwneuthur yn gyfar- tal â Baoon, Newton, Loohe, a Leib- nitz. Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng y gwrthddrychau y gall Athrylith weith- redu yn llwyddianus arnynt. Yn ofer y treuliai Newton ei nerth i gyfansoddi " Coll Gwynfa;" a phe cawsai Milton oes Methuselah, nis gallasai gyfansoddi "Prìncipia" Newton. Cydgyferfydd anian ac addysg i wneuthur dyn athrylithgar. Y bíaenaf i roddi'r defnyddiau, yr olaf i'w dad- blygu. Ein hamcan yn y papuryn presenol ydyw rhoddi ger bron ein darllenwyr ieuainc ychydig engreifftiau o Ath- rylith. I. Mewn dynion ieuainc.—Un o ath- rylith hynod oedd Thomas Ohatterton. Ganwyd ef yn Bristol, ar yr 20fed o Dachwedd, 1T52. Yr oedd yn 5 mlwydd oed pan anfonwyd ef i'r ysgol; ond yr oedd yn blentyn hynod o ddelffaidd; fel y y dywedir nad oedd yn bosibl argraffu llythyren ar ei ymenydd; ac wedi lla- furio yn ofer am hir amser wrtho, an- fonodd dfeistr ef tuag adref, fel "clwppa pendeẃ." Mynych y gwelir boreu niwl- iog yh rhagflaenu diwrnod ysblenydd. Ohwalodd y niwl tew oddiar feddwl Chatterton, ac ymddisgleiriodd ei ath- rylith yn ei nerth. Dysgodd y llyth- yrenau dan olygiaeth ei fain, ac o hyny allan bu ei gynydd mor gyflym ag yd- oedd o'r blaen ynaraf: mynych y llethir meddwl yr ysgolhaig gan anfedrue- rwydd yr ysgol-feistr; ac yr wyf yn meddwl pe buasai'r mamau yn ymroddi