Skip to main content

GWERINWR. Rhip IV.] GORPHENNAF, 1855. «[Llyfr I. P«ifrâ » íWâ Mae crefydd yn cael ei hystyried yn gyffredin yn ei phertbynas â'r dyn oddi- mewn ; a moesoldeb yn ei berthynas â'r dyn oddiallan—crefydd ar egwyddor, a moesoldeb ar ymarferiad—y naill yn y galon, a'r Uall yn y fuchedd. Mewn ystyr fanwl moesoldeb yn yr egwyddor yw crefydd, a chrefydd yn yr ymarferiad yw moesoldeb ; ac nid oes gwir foesol- deb ond syddyn cyfodi oddiar adnewydd- iad y galon ger bron Duw. Ond mewn ystyr gyffredinol gelwir ymarweddiad di- argyhoedd yn foesoldeb, ac yn y golyg- iad hwnw y defuyddiwn y gair moesol- deb. Ystyrir ý dyn sydd yn ymgadw oddiwrth ddrygau a phechoâau cyhoedd- ws ei oes yn ddyn moesol; ond gellir Çyrhaedd hyny yn allanol heb gyíhew- idiad trwyadl yn ansawdd y galon. Mae yn bosibl cynyrchu diwygiad allanol trwy foddion eraill. Cyfreithiau anian o'u gweinyddu yn deg a wna lawer tuag at effeithio gwell- iant moesol a chymdeithasol. Sefydla drefn deuluaidd—rhydd i bob aelod ei hawliau priodol — amddiffyna y naill ddyn rhag creulondeb y llall—diogela t'eddianau y deiliaid—dysg ddynion i sefyll dros eu hiawnderau eu hunain heb sathru ar yr eiddo eraill. Mae cyfreith- iau mewn teyrnas wedi éu bwriadu i ymosod yn erbyn y drygau byny sydd yn milwrio yn erbyn cysuron tymhorol cymdeithas; a gallent trwy weinyddiad gonest o honynt fod yn effeithiol i dori brigau, ac ysgythru ceinciaü hen bren anfoesoldeb cyhoeddus. Addysgbriodol, a'i chymwysoynbryd- lawn, a ddiwreiddia lawer o'r chwyn gwenwynig sydd yn tyfu yngardd natur lygredig,^—a atalia rediad chwyrn-wyllt líifogydd arferionpechadurus, ac a wrth- weithia dueddiadau annuwiol at ddrygau cyhoeddus. 'Dylanwad addysg dda wedi ei seilio ar egwyddorion moesol feith- rina hynawsedd ac addfwynder—am- ynedd a goddefgarwch—tiriondeb a charedigrwydd—gouestrwydd a chyf- iawnder—cymedroldeb a sobrwydd—di- weirdeb a rhinwedd, ac a addurna y cymeriad â " pha bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, pa beth- au bynag sydd bur, pa bethau bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd ganmoladwy." Gwelsom effeithiau a- ddysg dda yn rhoddi gwedd newydd ar ddynion o ran eu moesau allanol. Cynygia y cymdeithasau moesol_ sydd yn ein gwlad, osod y fwyell ar wreiddyn y prenau gwenwynig sydd yn gollwng oddiar eu brigau hadau gorthrwm, ang- hyfiawnder, meddwdod, ac anlladrwydd; a dim ond i beirianau galìuog addysg briodol, a'r cymdeithasau moesol, gael eu gosod i weithio ar gyfîwr cymdeith- asol y genedl, atehd 11 aw y Ueidr rhag cyffwrdd yn anghyfreithlawn âg eiddo ei gymydog — brawychai y llofrudd drochi ei ddwylaw yn ngwaed ei gyd-