GWERINWR. Ehif IV.] GOBPHENNAF, 1855. [Llyfe L "ŷuìsìí fx Jií|r0«|ìrL Y mae arisawdd ymchwiliad a mwynhad y meddwl dynol yn disgyn yn naturiol i ddau ddosbarth; sef tueddiadau i am- gyffred pethauyn oleuhymddangosiad, a thuedd i ddirnad natur pethau o ran eu hachosion a'u cysylltiadau—gwaith y dychymyg a gwaith y rheswm. "Bhwng y ddau ddigwyddiad yma," medd Bobert Hall, " y mae holl ymherodraeth ath- rylith yn rhanedig." Yr enwau y mae dynion wedi eu priodoli iddynt, ydyw, Bardd ac Athronydd. Y mae y ddau hya wedi eu gosod fel rhyw nodweddiad- au uchel i ddyn fel meddyliwr i ymgyr- aedd atynt. Ac y mae pob meddyliwr wedi cychwyn yn y naill neu y llall o'r cyfeiriadau hyn. Pa un bynag a yw yr enwau hyn yn briodol ai peidio, gellir dyweyd nad yw holl ymwneyd y meddwf â gwrthrychau allanol ond ymberffeithiad yn y nodweddau yma.- Mae'n wir mai ychydig mewn cydmar- iaeth sydd yn cyraedd enwogrwydd mawr yn y naill na'r llall yn eu hoes; ond níd yw hyny i'w briodoli i ddiffyg cymwysderau yn gymaint, ond i ddiffyg ymröad. Eto y mae yn ffaith mai an- fynych y mae gan yr un dyn alluoedd i ragori yn y naill a'r llall. Y mae yn deilwng o'n sylw fod tuedd- iadau boreuol dynolryw, yn gymdeith- asol a phersonol, at 'farddoniaeth. A'r rheswm am hyn ydyw, fod y dychymyg arnwydau yn fwy bywiog mewn ieu- enctyd; y rhai, mewn oedran addfed, ydynt yn ymlonyddu ac yn rhoi lle i îeddwl ac ystyriaeth ddyfnach. Mae hyn yn fiaith gyda golwg ar y byd yn gyffredinol, Ỳr ydym yn darllen am farddoniaeth yn y byd yn mhell o flaen athroniaeth. Yn mhlith y Groegiaid, er eügraifft, y genedl a enwogodd ei hun fwyaf yn y naili nodweddiad a'r llall o'r rhai hyn, yr ydym yn cael fod barddon- iaeth ẁedi' dỳfoií i enwogrwydd tua 600 o flynyddau o flaen Athroniaeth. Yr oedd Orpheus y Bardd Groegaidd yn byw tua 1250 C. C, ac yr oedd Homer yn. byw tua 1000 C. C. Ond nid oes genym hanes fod Athroniaeth wedi dyfod i lawer o enwogrwydd hyd oddeutu 600 C. C, ac ni chyraeddodd addfedrwydd oed- ran hyd amserSocrates, tua 400 C.C Ond yr oedd eu Barddoniaeth wedi cyraedd addfedrwydd 600 ynforeuach—yn amser Homer. Ac os caniateirfod x\throniaeth yn enwog yn mhlith yr Hebreaid yn amsér Solomon, yr hwn oedd yn byw tua yr un amser a Homer, yr ydym yn gallu dilyn hanes Barddoniaeth y genedl hono i amser Moses a Job o leiaf~o 1500 i 1800 C C. Y mae hyn yn dyfod i'r golwg hefyd wrth sylwi ar dued'diadau personau un- igol. Yr ydym yn canfod y meddwl ieuanc yn fwy hoff o sylwi ar bethau fel y hiaent yn ymddangos, nag ydyw o chwilio i rnewn i achosion a chysylitiad- au pethau. A pha ryfedd? oblegid nid yw y galluoedd wedi eu cryfau ddigon,