GWERINWE. Rhif. I.] EBRILL, 1855. [Llyfr I. ANERCHIAD. Ond oclíd na ddisgwylir i ni wneyd ein moes-gyfarchiad wrth gynyg cyhoeddiad newydd i sylw y Dywysogaeth. Dichon fod ein hanturiaeth yn ymddangos i lawer nid yn unig yn egwan, ond yn ddiangenrhaid, tra y mae y wlad mor llawn o gylchgronau trimisol, misol, pythefnosol, ac wythnosol yn barod; ond pa fodd bynag nid felly yr ymddengys i ni, onide ni chynygiasem fìsolyn yn ychwanegol. Nid ydym hyd yma wedi digwydd cyfarfod â neb yn barnu fod Llenyddiaeth Gymru yn ddifylchau; er ar yr un pryd ceir hwy yn dra anmharod i ymgymeryd â'r gorchwyl o gau yr adwyau. Y mae cyfryngau gwybodaeth yn dra lluosog yn ein gwlad, ac wedi ychwanegu yn ddirfawr yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf. Mae "llawer yn cyniweirio a gwybodaeth yn amlhau. " Ac er cymaint a organmolir ar ysbryd darllengar y Saeson, y mae nifer darllenwyr Cymru o lawer yn fwy mewn^cyfartaledd i rif y boblogaeth. Y mae Llenyddiaeth Cymru yn ddyledus yn benaf i'r cylchgronau a gyhoeddir ynddi ac a wasgerir trwy bob rhan o honi. Ac er na fwriadwn ar hyn o bryd gymeryd golwg ar uodwedd ein llenyddiaeth; eto nis gallwn fyned heibio heb sylwi ei bod yn cael ei hynodi gan foesoldeb a chrefyddoldeb ei thuedd. Os gall gwledydd eraill ymffrostio yn ngwreiddioldeb ei meddylwyr—dysgeidiaeth eu hysgrifenwyr, ac athryl- ith eu hawdwyr—gall Cymru ymgystadlu âg un wlad am duedd foesol ei Llenyddiaeth. Gydag ychydig eithriadau dibwys nid yw y wasg Gymreig wedi ei llychwino gan syniadau anffyddol—ffugchwedlau coegaidd—hon- iadau cableddus, nac iaith lygredig. I raddau helaeth, er mai nid i'r graddau y dymunem, y mae syniadau cywir—iaith bur—chwaeth goeth- edig, a tlraedd dda yn nodweddu y mwyafrif o'n cyhoeddiadau. Gall fod hyn i'w briodoli i'r cysylltiad agos sydd wedi bod rhwng y wasg a'r pwlpud. Gweinidogion yr Efengyl fynychaf sydd wedi bod wrth lyw y wasg; a'r un cynyrchion a draddodid yn y naill ac a gyhoeddid trwy y llall. Y pwlpud oedd y gallu arweiniol yn Nghymru. Ẁrth bwyso arno a derbyn nodded ganddo yr enillodd y wasg ddylanwad ; gallasai ei llethu yn ei mabandod. Ac fel y mae y wasg yn casglu nerth, hyderwn na bydd yn defnyddio ei dylanwad i wrthweithio y gallu roddodd nodded iddi, ac felly dalu drwg am dda. I'r cysylltiad agos sydd wedi bod