Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSPIWR, SEP &îitoîrîitot ISíebJStiîJfion a ì&f)gfẃìroîraU o fcofc waít). RHIFYN 29. DyddSadwrn, Mehejìn 8,1844. PR|S CEINICC. HANESION TEAMOE. Spaen.—Y mae y wlad yn dawelach yn awr nag y bu. Y mae llythyrau o Barcelonia yn hysbysu fod gryn wasgfa ar ías- nachwyr Catalonia, yr hyn a bri- odolir i'r symiau anferth o nwyf- au anghyfreithlon a ddygwyd i'r wlad yn amser y terfysgoedd yn Alicant a Carthagena. Portugal.—Llythyrau dydd- iedig o Lisbon, Mai 13, ydynt yn hysbysu fod y terfysgau wedi eu darostwng yn y deyrnas ar ol dwyn penaethiaid y gwrthryfel i gosbedigaeth. Yr oedd Se- nedd y wlad i ymgyfarfod ar y 23ain o'r mis. Dywedir fod y llywodraeth yn ymddwyn yn dra alresymol a chreulon tuagat un o ddeiliaid ei Mawrhydi Victoria, sef Mr. A. Tozer, brawd y prif swyddog Brytanaidd yn Figura. Y mae efe er ys deng niwrnod ar ugain mewn dalfa, ac yn yr yspaid hyny o amser fe'i llusg- wyd ef trwy ddim llaina chwech o garcharau budron, ffiaidd a drewllyd y Portugiaid, ac yng ngharchar Lisbon yr oedd y llau yn mron a'i nychu, 'ie, yr oedd y pryfed hyn yn ymlusgo ar hyd ei gorff, o'i goryn i'w sawdl: y mae hyn yn ffaith, ac fe ellir ei Íhrofi trwy lw. Nid oes gan y ily wodraeth fileinigun cyngaws yn erbyn y boneddig, ond eu bod yn tybied ei fod ef yn un o'r rhai iudr-wobrwyodd filwyr Combra iymuno yn y gwrthryfel diwedd- ar yn Almeida, oddiwrth yr hyn beth y mae efe mor lân a'r baban newydd eni. Fe'i bwriwyd ef i garchar heb un math o dreial arno, ac y mae efe yn parhaus apelio am gael ei ddwyn i dreial, yr hyn a omeddir iddo. Y mae ei frawd hefyd yn apelio at y Llywodraeth am gyfiawnder i'r dyn anffortunus, ond hyd yma yn aflwyddianus, A fydd i'n Llywodraeth ni gyfryngu yn yr achos hwn, nis gwyddom, ond yn sicr fe ddylai rhyw un gyf- ryngu yn ngwyneb y fath ang- hyfiawnder cywilyddus. O î mor werthfawr yw cael cyfreithiau uniawn a da: diolchwn i Dduw -ein bod yn byw mewn gwlad ag sydd i raddau pell yn meddu y cyfryw ddeddfau, Itali.—Derbyniwyd newydd- ion o'r Ital gyda Llythyr-god Levant, hyd yr 8fed o Fai. Un o bapurau ynys Malta (yr ydym yn sôn yn lled íynych am yr yn- ys hon, dealled y darllenyddion mai y Malta y crybwyllir am dani yn y Testament Newydd ydyw.) a ddywed, fod deg a thri ugain o offeiriaid wedi eu cym- eryd i fynu yn Trieste, am breg- ethu yn erbyn daliadau eglwys santaidd Rhuíain. Y mae hyn wedi enyn digofaint gwrthbleid- wyr Pabyddiaeth, y rhai sy yn dangos tuedd i wrthryfela, íel y mae un mil ar ddeg o filwyr wẁ- di eu galw i Venice, i'r diben i gadw yr heddwch.