Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF &&T0ìiîitot Netogfcluott a îftÿgfeìtòotrau o uoi) maíf). RHIF. 6. Dydd Sadwm, Gorph. 22, 1843. PRIS CEINIOG. HANESION TRAMOR. Yr India. Mae y Llythyr- gerbyd o'r wlad uchod newydd gyrhaedd Lloegr, gan ddwyn newyddion hyd yr 20fed o Fai. " Mae yn ymddangos fod y Beloochees yn dra chynyrfus eto, ac fel pe byddent yn casglu eu holl rym erbyn dydd brwydr, er ddarfod i ni dybied fod pob peth o'r natur hyny ar ben. Darfu i ShereMahomed unwaith gasglu byddin 11 ed luosog, sef oddeutu deng mil ar hugain, fel y tybir, a danfonodd atom, gan ddywed- yd, ei fod ef wedi ymladd dwy o íiwydrau dros ei wlad, a'i fod yn dymuno od yw bosibl i gael un arall dros ei grefydd; ac yn ol pob argoelion ni bydd efe yn esm wy th nes cael trydedd frwy dr, yr hyn a gymer le nis gwyddom pa mor fuan." China. Mae llythyrau o'r ymherodraeth hon wedi dyfod i law, pa rai sydd yn cynwys ne- wyddion hyd y 25ain o Fawrth. Nid oes dim o unrhyw bwys a chanlyniad wedi digwydd, nac yn debyg o ddigwydd yn fuan. Mae y bobl deríysglyd yn ninas Canton, wrth ganfod nas gallant ddiangc yn ddigosb os codant gynhwrf, yn awr yn dechreu ymlonyddu a thawelu o ran eu meddyìiau, gan lod yn amlwg weithian fod Brydain wedi cael ffafr yngolwg yr ymherawdwr a'i ymherodraeth yn gyffredinol. Y mae mesurau yn awr yn cael eu llunio er atala diddymu môr- ladrad, yr hyn sydd ar gynydd arswydus er's ychydig amser yn ol. Cynhygiai Syr H. Pottinger ei gymhorth iddynt i ddwyn eu hamcan clodwiw i ben: ond fe ymddengys mai eu llwybr eu buuain a gymerant o gwbl, gan iddynt wneuthur gwrthodiad parchus o'i gynllun ef. HANESIOM CARTRErOL. Y Senedd. Yr hyn sydd yn myned a holl amser a dylanwad ein Seneddwyr yn barhaus y w ysgrif arfau y Gwyddelod: nid oes ond ychydig iawn o ddim arall yn cael ei wneuthur er ys talm. Nos Wener, Mehefin 23, cynhygiodd Syr H. W. Barron fod i fesurau yr ysgiif gyrhaedd Lloegr yn gystal a'r Iwerddon ; ac ond iddi gael ei gwneuthur yn ddeddf gyffredinoT, ond odid na byddai dim cymaint o helynt yn ei chylch, a chymaint hefyd o wrthwynebiad iddi gan bobl yr Iwerddon. Dywedodd mai allan o reswm y gwelai efe i sefydlu y fath ddeddf mewn un parth o'r deyrnas heb gyrhaedd o honi dros yr oll o'r deyrnas : a chan mai ysgrif er diogelu ac amddiffyn bywydau ydyw, pwy a all ei gwrthwynebu i daenu y naill aden dros Brydain, gystal a'r llall dros yr Iwerddon. Yr oedd efe yn addef fod drygau