Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXIX.] RHAGFYR., 1905. [Ehif V2. Y FLWYDDYN 1905. Wrth anfon rhifyn olaf yr Ymwelydd atn eleni i'r Wasg, y mae yn eithaf priodol galw sylw at rai ffeithiau pwysig a gymerasant le yn ystod y flwyddyn ; nid gyd a'r amcan o wneuthur dim tebyg i adolygiad manwl ar ddigwydd- iadau y flwyddyn hon. Gallesid cyhoeddi cyfrol ar hyny, ond ni chaniatta gofod nac amser i ysgriíenu llawer yn y" cyfeiriad hwnw, ac ni wasanaethai hyny mo'n ham- can yn yr ysgrif hon. Diameu mai blwyddyn ac iddi ei haces neillduol ei hun y w hon. Cymerodä pethau mawr a phwysig le ynddi yn mhell ac yn agos. Yn ystod yr haner cyntaf o honi dygwyd yn mlaen y rhyfel ffyrnig rhwng Rwsia a Japan. Y rhyfel yn mha un yr aberthwyd mwyaf o fywydau dynoí ynddi er ys oesoedd. Tybiodd Rwsia mai gorchwyl bychan iawn oedd rhoddi curfa i Japan fechan fel na chodai ei phen am un genhedlaeth o leiaf. Yr oedd gan- ddi Port Arthur a'i hamddiffynfeydd cedyrn yn ei ham- gylchynu ; a'i llyngesoedd unedig, heblaw ei phum can mil o fyddin yn ngwlad eang Manchuria. Ond profodd y Japaniaid eu bod yn mhell ar y blaen i Rwsia yn ei rhyfel-gyrchoedd, a buont yn fuddugwyr yn mhob cad- ymgyrch. Ni bu cymaint o ddibrisdod a difrod ar fywyd- au dynol yn nghof neb sydd yn fyw. Ond o'r diwedd, cyttunwyd ar delerau heddwch drwy i Ly wydd yr Unol Daleithiau lwyddo i gael y ddwy deyrnas i ddewis cynrychiolwyr i gyd-gyfarfod mewn cynghor, yr hyn a brofodd yn effeithiol er terfynu y rhyfel ofnadwy echryslawn hwnw. Yr oedd cyhoeddiad yr heddwch hwn yn newydd da i glustiau yr holl fyd gwareiddieclig. Y mae cyflwr mewnol Ymerodraeth fawr Rwsia etto yn bur anfoddhaol, a'r wlad trwyddi oll wedi bod ar fin gwrth- ryfel ofnadwy. Y deiliaid yn galw am lawer iawn mwy o