Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] EHAGFYR, 1903. [Rhif 12. Y WINWYDDEN A'R CANGHENAU. (Parhad o tu dalen 163). Gwelsom yn barod y rhaid i'r saint feddu undeb ffydd â Mab Duw cyn y derbyniant fywyd ysprydol a chynhal- iaeth trwyddo, megis y rhaid i'r gangen naturiol feddu undeb a chyssylltiad a'r pren, mewn trefn i dderbyn bywyd a nôdd o hono : ac mae yn rhinwedd yn undeb a'r cys- sylltiad hwn yn unig y gall y gangen ffrwytho. Gwelsom hefyd mai planhigyn tyner, a changhenau gweiniaid iddo, yw y winwydden, ac y rhaid wrth ofal mawr, a chynhes- rwydd o'i gwmpas, mewn trefn iddo fod yn ffrwythlawn : —felly hefyd am ganghenau y Wir Winwydden, y maa yn rhaid wrth ofal mawr yn eu cylch : ac oni bydd digon o wres cariad Crist ynddynt, ofer disgwyl am '' ffrwyth lawer'' er gogoniant i'r Tad arnynt. Sylwasom hefyd fod eglwysi Crist ar y ddaear yn cael eu cyffelybu i '' ardd yr Arglwydd," neu "winllan Arglwydd y lluoedd,"—lla manteisiol, o dan driniaethau a moddion gras, i feithrin y canghenau— eu " glanhau fel y dygont fwy o ffrwyth." Yn awr, y mae yn dra phwysig ar fod i bob eglwys edrych rhag fod un bwystfil drwg yn torri i mewn i'r winllan, i ddinystrio y prenau, mathru y cwbl dan draed, a difa y ffrwyth. «' Deliwch i ni y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllanoedd, canys y mae i'n gwinllanoedd egin grawnwin." Onid goddef gormod o "lwynogod bychain," a'u goddef yn rhy hir, nes iddynt fagu nerth a gormod o hyfdra, fu yr achos o ddifwyno cymaint ar win- llanoedd ein Cyfundeb ychydig flwyddi yn ol ? Cymerwn rybudd oddi wrth hyn. Bydded i ni ■' edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth ras Duw ; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, 12