Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWÈLYDD, Cyf. XXVII.] TACHWEDD, 1903. [Ehip 11. Y WINWYDDEN A'B CANGHENAU. (Parhad o tudalen 148). YMAE yr undeb ysprydol hwn â Christ yn gwbl o ras, ac mewn rhai ystyriaethau yn wahanol i undeb naturiol ac anianol. Yr oedd undeb Mab Duw â dynoliaeth yn undeb goruwch-naturiol, ac mae dirgelwch yr ymgnawdoliad uwchlaw ein hamgyffredion. Felly hefyd y mae yr undeb ysprydol rhwng y credadyn â Christ yn fwy nag y gellir ei lawn amgyffred. A gweithred sydd yn gwbl o ras ydyw uno pechadur aflan wrth Berson sanctaidd yr Emmanuel:—y cyfiawn yn cael ei uno à'r annghyfiawn,—y glan a'r sanctaidd yn cael ei uno gyd a'r aflan a'r halogedig ; y tylawd yn cael ei godi i undeb â'r hwn sydd yn '' etifedd pob peth,"—y tywyllwch yn ymgolli yn y goleuni "sydd yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd."—Y marw mewn camweddau a phechodau yn dyfod i gyffyrddiad â'r byw, a thrwy hyny yn derbyn bywyd iddo hun. Dyma yr unig ffordd i fywhau cangen farw dynolryw, ydyw trwy ei himpio i Grist—y Wir Winwydden. " A chwithau a fywhaodd efe pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1. : a'r unig ffordd i ffrwytho ydyw trwy aros yn yr undeb bywiol hwn. Mae'r ffaith fod y gair '*aros," yn ei wahanol dreigliadau, yn cael ei ddefnyddio un ar ddeg o weithiau yn yr ymadrodd byr hwn, yn profi fod pwys neillduol fawr ar fod i'r undeb hwn gael ei gadw. Ehaid aros, trigo, preswylio, cartrefu yn yr undeb â Christ. Nid yn anwadal,—weithiau yn dal y broffes, a phryd arall yn ei gwadu, —yn ymddangos yn grefyddol ar y Sul, a dim arwyddion crefydd na gras ddyddiau yr wythnos,—ond bob amser, yn mhob man, 11