Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] HYDREF, 1903. [Rhtp 10. Y WINWYDDEN, A'I CHANGHENAU. Papur a ddarllenwyd gan y Cadeirydd, Mr. Henry S. Jones, Bryn Maelor, Ponciau, yn Nghynnadledd Harlech, Medi 14, 1903. Anwyl Fbodyb yn Nghbist :—Ar yr achlysur o'n hymgynnulliad blynyddol fel aelodau o'n Cynnadledd a Chynrychiolwyr eglwysi ein Cyfundeb yn Ngogledd Cymru, nis gallaf wneuthur yn well na galw eich sylw at ddammeg y Winwydden a'i Changenau, gyd a'r amcan o ddeffroi ein hystyriaethau at yr undeb agoa a ddylai fod rhyngom â Christ, ac â'n gilydd, mewn trefn i feddu bywyd ysprydol o ffrwythlonrwydd. Dywed Crist wrth ei ddisgybìion—"Myfi yw y Ẃinwydden, chwithâu yw y canghenau." Ioan xv. 5. Ac fel y mae holl ddammeg- ion Crist yn ddarluniau tarawiadol o'r gwersi ysprydol y bwriedir eu dysgu trwyddynt, felly hefyd yn eu plith y cawn yr uchod, yn llawn hyd yr ymylon, mewn perfíaith eglurder o'r gwirionedd mwyaf angenrheidiol ac addysg- iadol. Mae amryw olygiadau gan ddjnion parthed y rheswm, neu yr achos o lefaru y ddammeg hon, yr hyn a adawaf idd eich chwilfrydedd chwi i beuderfynu pa un o honynt sydd debycaf o fod yn gywir, gyd a chrybwyll wrth fyned heibio, gan fod y ddamraeg yn gynnwysadig yn mhregeth olaf Iesu Grist tra yn eistedd gyd a hwynt yn yr oruŵch- ystafell—y dichon, ar oì cyfranogi o'r swper sanctaidd, yn mha un yr oedd ffrwyth y winẃydden yn arwyddlun o'i waed—iddo gyfeirio eu meddyliau atto ei hun fel y "Wir Winwyddeu," er dangos y cyssylltiad agos oedd cyd-rhyngddo ef à hwynt fel "canghenau," a'u ffrwyth» lonrwydd mewn canlyniad. 10