Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] AWST, 1903. [Rhip 8. CALONAU HYNAWS. (Parhad o tudalen 10^).'.^ II. Yr olygfa nesaf ar Galon Hynaws á'm dwg yn ol i'r hen amseroedd, ond nid mor belled yn ol a'r olygfa gyntaf. Cymerwyd fi i amseroedd blinion a drwg ar Gristionogion. Cyfnod yr erlid, y carcharu, a'r merthyru y sawl a broffesent ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Mewn dinas henafol, yr oedd ynddi lecyn llydan ac agored, a thyrfa fawr o bobl yn sefyll ar gylch eang. Yn nghanol y cylch hwn yr oedd offeiriaid á milwyr yn sefyll yn eu clogau duon a chochion. Yn eu canol gwelwn ystangc o bren cryf wedi ei yrry i'r ddaear, a phentwr o ffagodau o'i gylch. Ac wedi ei gadwyno wrth yr ystangc gwelwn ddyn sanctaidd Duw, yr hwn y mynnai yr offeiriaid annuwiol hyny ei losgi i farwolaeth, nid oblegid ei fod yn ddrwgweithredwr, ond oblegid iddo bregethu Efengyl Crist yn ei symledd i bechaduriaid. Yna gwelwn y dynion annuwiol hyny yn rhoddi tân yn y ffagodau, a deallais fod y ffagodau hyny yn bur llaith, fel mai yn araf iawn y llosgent o amgylch corph y merthyr druan yn y canol ; ac yr oedd y llosgiad araf hwn yn peri poenau arteithîol iawn i'r dioddefydd oedd wedi ei rwymo wrth yr ystangc. Yna cefais olwg ar fflachiad wirioneddol, ond hynod, o Galon Hynaws. Allan o ganol y dyrfa gwelais hen wreigan gyda baich o flfagodau crinion wedi eu sychu yn dda, a swp o wellt, yn gweithio ei ffordd at y merthyr, ac yna yn gosod y gwellt a'r ffagodau crinion yr ochr agosaf i'r gwynt i'r goelcerth, a fflamiodd y cwbl ar unwaith. Ac mi a welais y wen