Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] GORPHENAF, 1903. [Rhif 7. — •, , i__ GOBAITH CYFIAWNDER. Gan C. H.. Spubgeon. (Parhad o tu dalen 84). II. Yn awr, gadewch i ni ystyried perthynas yr Yspryd Glan aW mater hwn. " Canys nyni yn yr Yspryd (neu trwy yr Yspryd) trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder." Sylwch, frodyr, gwaith yr Yspryd ydyw dinystrio balchder dyn. " Pob cnawd sydd wellt; " " holl ogoniant dyn sydd fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a'i fl odeuyn a syrthiodd ; " oblegid i Yspryd yr Arglwydd chwythu arno. Mae yr Yspryd Glan yn dinystrio y tegwch yr ymffrostiai y dyn anianol ynddo. Ac onid yw yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd yn milwrio yn erbyn balchder y gàlon ddynol ac yn gwywo ymffrost a gwag-ogoniant dyn ? Beth all wneuthur hyny yn fwy effeithiol ? Gwelais y Pharisead balch yn cilwenu gyda chasineb dirmygus wedi gwrandaw yr athrawiaeth hon. 1 á Beth,'' meddai, " ar ôl yr holl weithredoedd da a wneuth- um am flynyddoedd, a raid i mi ddyfod at Grist, fel pe buaswn yn lleidr, neu yn butain, a chael fy achub yn unig trwy ras, megis mater o elusen ? " Na, nis gall Pharisead balch a hunangyfiawn ddygymod a'r athraw- iaeth hon, oblegid ystyria ei hun yn ddiargyhoedd yn oi y cyfiawnder sydd yn y ddeddf. Yn awr, gwaith yr Ys- pryd Glan ydyw goleuo llygaid meddwl dyn i welei ei gamsyniad, ei argyhoeddi o'i bechadurusrwydd, darostwng ei falchder ysprydol, a dwyn y pechadur ir llwch o dan hunangondemniad. Ac athrawiaeth fawr Rhad Rìs, yr hon sydd yn dysgu cyfiawnhad yn unig trwy ffydd ydyw