Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyp. XXVII.] MEHEFIN, 1903. [Rhif 6. GOBAITH CYFIAWNDER. Gan C. H. Spurgeon. (Parhad o tu dalen 68). MAE'R gobaith hwn yn meddu ar sylfaen sicr. Tru- enua yw y gobaith hwnw nad yw yn meddu ar syl- faen briodol, oblegid y mae hwnw yn rhoddi ffordd pan bwysir arno, a phan reitiaf wrtho. Ond y mae i'n gobaith ni sylfaen ddiysgog ; y mae yn seiliedig ar union- deb ; am hyny y gelwir ef " gobaith cyfiawnder." Gwir- ionedd a chyfiawnder ydynt seiliau priodol gobaith y credadyn. Y mae gwir ffydd yn ein dwyn i afael a c h^fiawnder cyfrifol yr Arglwydd Iesu Grist i'r rhai oll a gredant ynddo ; ac yn y cyfiawnder hwnw y mae Duw yn edrych arnom yn gymeradwy a chyfiawn. Mae y llygaid tanbaid a threiddiol hyny sydd yn canfod y gwyrni a'r diffyg lleiaf yn craffu arnom, ond nis gallant ganfod un rhithyn o anmherffeithrwydd yn ein cyfiawn- der. Chwiliant ni trwodd a thrwodd fel heiliau llosgawl ; ond deil ein cyfiawnder yr archwiliad mwyaf trylwyr, a daw allan heb ddeifio dim ar ei wisg gan y tân ysol, oblegid cyfiawnder Crist ydyw, yr hwn a gyfrifir i'r enaid a gredo ynddo. A dymuniad Paul ydoedd ar gael ei hun " yiiddo Ef, heb ei gyfiawnder ei hun yr hwn oedd o'r gyfraith ; ond yr hwn sjdd trwy ffydd Crist," &c. Ac wedi credu o honom yn îesu Grist ein Harglwydd —" nid oes yn awr ddim ddamnedigaeth i«ni." Y mae gennym ni gyfiawnder yr hwu y beiddiwn ei gyflwyno ger bron y Tad, oblegid y mae yn beröaith. Nid oes ynddo ddim yn fyr, na dim yn ormod ; yr ydym yn gyf- iawn ger bron Duw, ac yn ddifeius ger bron ei orsedd. Geiriau cryfion, ond nid yn fwy beiddgar na'r rhai a arferai