Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] MAWBTH, 1903. [Bhip 3. NODION BYWGBAFFYDDOL. Y DlWEDDAB FRÀWD PHILLIP JONES, PONKEY, BhOS- (Parhad o tu dalen 20). Fel Athbaw yn yb Ysgol Sul. ÜN o anhebgorion Ysgol Sal Iwyddianus ydyw cael Athrawon da. 0.-; am weled yr Ysgol yn myned ar gynydd, a'i deiliaid yn bîodeuo mewn gwybod- *eth o Air yr Arglwydd, rhaìd cael athrawon diwyd, cryf eu hamgyffrediad, eynefin yn yr Ysgrythyr Lân ; a rhai yn medru mesur a phwyso yn brÌDdol yr hyn fyddis yn ymdrin ag ef. Un o'r cyfryw oedd ein gwrthddrycb, * bu yn llanw y cylch am amsermaith. Bob amser, gan nad yn mha faes bynag y byddid, yr oedd ganddo ryw oleuni ychwanegol i gyfranu i'w ddosbarth. Byddai bob amser yn hofî o ddarllen. a chaffai flas anarferol wrth chwilio i gynwys llyfrau da. Fodd bynag, nid oedd ganddo lawer o foddion i gael gafael ar y cyfryw lyfrau am eu bod yn rhy gostfawr. Nid colled i gyd fu hyn ìddo, oblegid nid oedd yn debyg yr esgeulusai un mor hoff o ddarllen yr hyn oedd yn ei feddiant, Yr oedd "Llyfr y Llyfrau'" ganddo, a rhyfedd mor llwyr y gwnaeth hwnw yn feddiant iddo ei hun. Nid oedd odid ran yn y Gyfrol Ddwyfol nad oedd efe yn hollol gyfarwyd.ì ynddi. Tra y cydnabyddai yn rhwydd mai yn y Testament Newydd yr oedd yr amlygiad mwyaf o drefn gras. eto, nid esgeulusai yr Hen Destament, a chadwai mewn cof bob amser " mai trwy Ysbrydoliaeth Duw " y cafwyd hwnw hefyd. Yr oedd swyn anarferol idc'lo yn hanesion y Beibl ; gwyddai am yr oll o honynt a gallai eu hadrodd gyda blas. Mor llwyr yr oedd yr