Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] CHWEFROR, 1903. [Rhip 2. NODION BYWGRAFFYDDOL. Y DlWEDDAP. FRAWD PHILLIP JONES, PONKEY, RhOS. (Parhad o tu dalen 4). Yb Eglwys Amddifad. Wedi marwolaeth tad tirion, a gweinidog ffyddlawn, gadawyd yr eglwys fechan yn fwy amddifad nag erioed : ond ni chollodd olwg ar Ben Mawr yr eglwys. Nifer ei haelodau yn yr argyfwng pwysig hwnw ydoedd deg,—tri o frodyr a saith o chwiorydd. Mae adgof o'u henwau yn yn aros etto yn beraroglus—Thomas Jones a'i briod, Elizabeth Jones;—David Davies a'i briod, Margaret Davie3 (merch yr hen weinidog Stephen Jones) rhieni y brawd Daniel Davies, 21 Fennant Road:—Ellen Jones, "ail wraig yr hen weinidog, a Mary Jones ei ferch. Sarah Jones, priod y diweddar Stephen Jones yr ail, Brynmaelor ;—■ Mary Hughes, Wrexham ;—Phillip Jones, gwrthddrych y Cotìant hwn, achyfnither iddo o'r enw Sarah Jones. O'r tri brawd oeddynt aelodau, yr oedd dau yn dioddef o dan annallu naturiol pwysig i fedru siarad dim yn gyhoeddus ; ac oblegid hyny yr oedd yr holl gyfrifoldeb o ddwyn yn mlaen y gwasanaeth cyhoeddus, ac eithrio y canu mawl, yn gorphwys yn gwbl ar Phillip Jones. Ac yn yr olwg ar yr eglwys fechan dlawd ar y pryd—pwy na ddywedai, —O, galedwch Ffawd ! (" Thc irony of Fate!") Ond i ba beth y soniwn am Ffawd ? Oblegid credwn mai llaw yr Anfeidrol, ac nid Ffawd, oedd yn goruwch-reoli y cyfan, a hyny er daioni; er fod ei ddybenion ar y pryd yn aneglur, ac anhawdd iawn eu deall gan reswm dynol. Pwy fyth fuagai yn meddwl yr adeg hono, y buasai eglwysi cryfion & blodeuog y Tabernacl a Soar heddyw, wedi eodi o'r eglwys fechan lwydaidd, ddi-allu hono ?