Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVII.] IONAWR, 1903. [Rhif 1. NODION BYWGRAFFYDDOL. Y DlWEDDAP, FEAWD PHILLIP JONES, PONIÝEY, RhOS. ID ydym yn bwriadu myned i mewn yn fanwl i dymhor ei febyd, nac ychwaith i amgylchiadau tym- horoi ei fywyd wedi hyny ; ond ymdrin, gan mwyaf, á'i gysylltiadau crefyddol. Ganwyd ein gwrthddrych 80 mlynedd yn ol, mewn ty oddeutu hanner milldir o'r Rhos, oedd yn sefyll ar ochr y brif-ffordd rhwng Ruabon a Gwrecsam. Mab ydoedd i'r diweddar hybarch Stephen Jones (y cyntaf) ac Ann ei briod, ac unig frawd i'r diweddar Stephen Jones (yr ail), o'r hwn y mae cofiant wedi ymddangos yn yr Ymwelydd y llynedd. Fel yr uchod ni chafodd ei frawd Phillip ryw fanteision addysg mawr yn moreu oes ; ond, er hyny, yr oedd trwy ei hoffder o ddarllen wedi dyfod yn feddianol ar wybodaeth gyffredinol lled helaeth. Yn gynar iawn ar ei fywyd rhwymwyd ef yn egwyddorwas at y grefft o grydd, yr hon alwedigaeth a ddilynodd yn ddiwyd hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w farwolaeth, a rhoddodd hyn derfyn ar bob gobaith a allasai fod yn llechu yn ei fynwes am add- ysg a gwybodaeth. Ei Rieni. Dyn o gymeriad difwlch, ac o feddwl unplyg oedd ei dad. Perchid ef gan bawb a'i hadwaenai, am y credent nad oedd twyll ynddo, ac am y gwyddent na wnai gam â neb yn fwriadol. Edrychid i fyny atto gan bawb fel un o'n dynion gonestaf, a mwyaf crefyddol yn yr holl ardal. Nodwedd gref ac arbenig yn ei gymeriad oedd ei garedig- rwydd. Credwn ei fod yn eithriadol yn hyn. Ni ar- bedai hyd yn oed ei damaid olaf pan welai un mewn angen.