Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] TACHWEDD, 1902. [Rhif 11. Y GYNNADLEDD FLYNYDDOL. Annerchiad y Cadeibydd. (Parhad o tu dalen 148). OND er meiíhed oedd y gwasanaeth crefyddol yr adeg hono, sef o ddeg yn y boreu hyd oddeutu hanner awr wedi un y prydnawn ~ ac er fod y gwasanaeth yn fwy syml a diaddurn nag ydyw yn bresenol, etto i gyd, ni chiywid neb yn cwyno fod yr oedfa yn rhy faith. Buasai y tô presenol o addolwyr wedi hen flino ar y gwasanaeth cyu deuddeg o'r gloeh, hyd yn nod er meddu hwyrach, ar well doniau heddyw na'r pryd hwnw. Pa gyfrif a ellir ei roddi am hyn ? Wel, dyma'r modd y byddat fi yn gwneyd y sum hon i fyny, gwnewch chwith- au hi tnewn modd gwahanol, os mynwch,—Yr oedd yr hen frodyr, a'r hen chwiorydd, wedi esgyn mor uchel ar foreu Dydd yr Arglwydd, o ran eu profiadau, a dyfod i gyffyrddiad mor agos a'r ysprydol a'r nefol, nes gallu o hony.it annghofìo amser a'i bethan. Mwynhaent wledd- oedd ysprydol yr efengyl wrth ymwneyd âg ordinadau sanctaidd y Dydd, fel nad oedd ynddynt unrhyw duedd i droi (: u llygaid at yr awrlais fel rhai wedi blino ar ddan- teithi ii a brasder ty Dduw. Yn hyërach, i'r gwrthwyneb —er i 'ithed y gwasanaeth, prin y byddai yr hen dadau wedi i ■ d digon ar y pethau, oblegid cofiwyf yn dda am lawei ' honynt yn cerdded o'r naill amaethdy i'r llall, i ganu .noliannu yr Arglwydd, a son am y gwirioneddau a gly mt yn y bregeth a'r cynghorion. Fei . gwelwn, fod yr hen bobl naiìl ai yn siarad cref- ydd, u yn canu crefydd yn wastadoí ; aconid oedd hyn yn h< i mawr iddynt i fyw crefydd. Yr oeddynt yn cadw