Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] HYDREF, 1902. [Ehif 10. Y GYNNADLEDD FLYNYDDOL. Annerchiad y Cadeirydd. Anwyl Frodyr yn yr Arglwydd,— Yn gyntaf oll yr wyf yn diolch i chwi am yr anrhydedd a roddasoch arnaf drwy fy newis yn Llywydd y Gynnad- ledd am y flwyddyn hon. Er nad wyf yn teimlo fy mod yn haeddu yr anrhydedd hwn, nac ychwaith yn teimlo fy mod yn gymwys i'r gwaith pwysig a berthyn ì'r swydd, etto nid oes gennyf ond gwneuthur fy ngoreu o dan yr amgylchiadau, gan erfyn eich cydymdeimlad a'ch cynorthwy. Credaf fod annogaeth y Gwr Doeth yn gym- hwysiadol at gyflawniad y swydd hon, fel at bob gwaith da arall, — " Pa beth bynnag yr ymaflo dy law ynddo i'w wneuthur, gwna a'th holl egni." Un peth cysurus i mi ydyw, nad oes destyn wedi ei nodi, nac ychwaith unrhyw linell neillduol wedi ei thyn- nu allan i mi, i gadw attynt yn nghwrs fy annerchiad. Felly cymeraf fy rhyddid i'ch arwain (o ran eich meddyl- iau) i goppâu gwahanol fryniau manteisiol er cael golwg ar ein Cyfundeb o wahanol safleoedd, gan gymeryd i fewn in sylwadaeth—Y gorphenol: Y presenol: a'r dyfodol. Gwnaf dri sylw mewn perthynas â'n Cyfundeb, sef, Yn laf,—Yr hyn oeddym. Yn 2ail. Yr hyn ydym yn awr; ac yn 3ydd—Yr hyn a ddylem fod os ydym yn pender- fynu byw, a chasglu nerth yn y dyfodol. I. Yr hyn oeddym. Credaf y ceir gwersi crefyddol neillduol deilwng o'n sylw o esgyn i ben bryn Profiad, gan edrych yn ol, a syllu pa fodd yr oedd yr hen frodyr a'r hen chwiorydd a adwaenem yn dda—yn ymlwybro y'mlaen gyd a'u crefydd. 10