Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] MEDI, 1902. [Ehif 9. NODION BYWGEAFFYDDOL. Y Diweddae Frawd Stephen Jones, Ehos. (Parhad o tu dalen 116). Y N y blynyddoedd cyntaf o'n cydnabyddiaeth ag ef, yr I oedd ynddo duedd gref at drafod pyngciau duwin- yddol ; a darllenai lawer ar yr ysgrythyrau sanct- aidd er mwyn efrydu gwahanol ranau yr athrawiaeth Gristionogol. Ac mewn ymddiddan a chyfeillion cref- yddól, tafiai ambell gwestiwn yn agored ar yr athrawiaeth hon neu arall, gan grybwyll gwahanol olygiadau duwin- yddion hen a diweddar, a theimlai ddyddordeb mawr ynddynt. Daliai i fyny ei syniadau ei hun gyd a zel a brwdfrydedd, gan arddangos llawer o allu meddyliol cryf, a brwdfrydedd mawr. Ond yr oedd wedi cyfnewid yn y blynyddoedd olaf, yr oedd ei duedd yn fwy at y profiadol nag at y pyngciol. Nid cyfnewid yn ei farn ar y pynciau a wnaeth ychwaith : yr oedd mor gadarn a diysgog a'r graig gyda golwg ar y pynciau crefyddol hyd awr ei ymddatodiad, a gellir dweyd am ei syniadau crefyddol eu bod yn ddigon iach ac uniongred fel nad oedd angen eu cyfnewid. Eto yr oedd wedi cyfnewid yn fawr yn ei chwaeth gyda golwg ar ddadleuon brwd y dyddiau gynt. Os byddai ychydig wahaniaeth barn rhwng rhai o'r brodyr ac yntau ar ryw fater, gallech gasglu fod hyny yn friw i'w deimladau, ond nid ynganai air, dioddefai y boen yn ddystaw, tra yr oedd lleithder ei lygad yn arwyddo ei brudd-der : nid oedd ganddo flas at ymddadleu yn awr fel yn y blynyddoedd a fu. Diddanwch mawr i'w enaid oedd darllen banes hen gymeriadau duwiol y Beibl. Yr