Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] AWST, 1902. [Rhif 8. NODION BYWGRAFFYDDOL. Y Diweddae Fbawd Stephen Jones, Rhos. (Parhad o tu dalen 99). IIID peth annghyffredin yn hanes rhai bugeiliaid eglwysig I* ydyw fod eu parch au dylanwad ar bobl eu gofal, yn myned yn ilai bob blwyddyn, ar ol y deg, neu yr ugain mlynedd cyntaf o'u gweinidogaeth ; nes o'r diwedd y clywir rhai o'r aelodau yn murmur wrth eu gilydd— "Fod gweinidogaeth Mr. ------ wedi myned yn bur gyffredin, ac nad yw yn llwyddo i osod argraff a dylan- wad priodol ar y gynulleidfa :—a bod yn llawn bryd iddo symud i rywle arall." Rhaid cael dyn neillduol dda i arolygu a bugeilio eglwys Dduw yn y fath fodd fel ag i beri fod ei barch a'i ddylânwad da yn cynyddu yn y gyn- nulleidfa fel y cynydda nifer blynyddoedd ei weinidog- aeth. Dynion yn ofni Duw, ac yn caru yr lesu, a rhai yn meddu pwysau da yn eu cymeriadau ydyw y bugeü- iaid hyny sydd yn gallu cario dylanwad da, a di-drais ar yr eglwysi. Un felly oedd yr hybarch frawd Stephen Jones ; ac y mae ein galar yn fawr ar ol ei ymadawiad. Prin y gellir prisio a sylweddoli gwerth cymeriadau cyn cael ein hamddifadu o honynt. Profiad y w y dysg- awdwr sydd yn argraffu ei wersi ddyfnaf ar lech y galon o neb. Profiad gydymdeimla â'r clwyf, ac a gydofidia â'r golled. Collodd eglwys y Tabernacl golofn gref, arweinydd cywir, bugail da, pan y torrwyd ef o dir y rhai byw, neu yn hytrach pan yr aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. Fel dyn, ac fel Cristion, meddai gymeriad diargyhoedd, edrychid i fyny arno yn ei ardal enedigol, ac yn mhlith